Mae “Marwolaeth a Gweddnewidiad” yn derbyn adolygiadau gwych
10 Mawrth 2022
Mae Death and Transfiguration, albwm newydd yr Athro Kenneth Hamilton sy’n ymroddedig i gerddoriaeth piano Franz Liszt, yn parhau i ennill clod.
Wedi’i ddisgrifio yn ‘waith sy’n bleser pur i wrando arno, ac a berfformiwyd yn gampus”, dyma recordiad o’r Editor’s Choice Recording yng nghylchgrawn Gramophone sydd wedi ymddangos yn rhestr Best Classical New Releases of 2021 y Guardian. Cafodd ei ddewis yn Classical Highlight ar AllMusic a’i ddewis yn Record of the Week ar raglen Record Review BBC Radio 3 .
Dyma a ddywedodd Andrew McGregor, un o gyflwynwyr BBC Radio 3: “Drwy gydol perfformiad Hamilton o waith Liszt, mae’r rheolaeth dros liw, manylder y sylw a roddir i bob llais, y gwahanol effeithiau offerynnol y mae’n eu cyflwyno yn drawiadol o effeithiol…yma, adfywio yw hanes yr hen ffefrynnau Rhamantaidd y Sonata yn B leiaf a’r Ballade. Mae’r perfformiad cyfan yn llifo mewn modd ystyrlon o’r dechrau i’r diwedd, ac mae’r nodau yr un mor ddadlennol â’r chwarae ei hun.”
Ysgrifennodd y beirniad cerddoriaeth Ralph Locke: “Mae Kenneth Hamilton yn deall sut i droi CD yn brofiad deallusol a cherddorol hynod ddiddorol a chyffrous. Mae’n un o drysorau mawr byd cerddoriaeth glasurol heddiw.”
Disgrifiodd Dr Chang Tou Liang, prif feirniad cerddoriaeth Straits Times Singapore, y recordiad yn “feistrolgar... sy’n edrych yn agos ac mewn ffordd bersonol ar syched ac awydd Liszt i gael ei gynnal a’i adfywio’n ysbrydol, ei ymateb i brofedigaeth a sut y daeth o hyd i heddwch... Does yr un darn nad yw’n llawn chwaeth, nac yr un nodyn diangen, yn y 152 munud yma o gerddoriaeth.”
Dywedodd Colin Clarke fod yr albwm yn “ysblennydd, ac mae cynnwys yr albwm wedi’i ddewis a’i ddethol yn berffaith, ac wedi’i berfformio â chydbwysedd sy’n cyfuno cywreinrwydd â deallusrwydd.” Yn ôl John France: “Mae’r chwarae yn arbennig yma. Daw Kenneth Hamilton ag ymdeimlad dwyfolaidd i gerddoriaeth Liszt; ymdeimlad sydd ar goll yn aml mewn perfformiadau eraill.”
Mae Amgueddfa Goffa Franz Liszt yn Budapest wedi cyhoeddi cyfweliad yn ddiweddar gyda’r Athro Hamilton, ac mae hefyd yn artist recordio ac yn cael ei gyfweld ar raglen hirsefydlog The Forum Gwasanaeth y BBC i’r Byd, mewn pennod o’r enw Franz Liszt: Hungarian Pianist and Painter in Sound.
Mae'r CD ar gael i'w brynu ar-lein.