Ewch i’r prif gynnwys

Bydd Prifysgol Caerdydd yn gartref i gymrodoriaethau'r Awyrlu Brenhinol

7 Mawrth 2022

Mae Prifysgol Caerdydd a'r Awyrlu Brenhinol (RAF) wedi cyhoeddi dwy gymrodoriaeth newydd ar gyfer personél yr Awyrlu Brenhinol.

Mae'r cymrodoriaethau'n rhan o don newydd o Gynllun Cymrodoriaethau Pennaeth y Staff Awyr (CAS) sydd wedi ehangu ar draws y gweinyddiaethau datganoledig ac sy'n cyd-fynd â gallu’r Awyrlu Brenhinol yn y dyfodol mewn meysydd megis seiberddiogelwch, trawsnewidiadau digidol a gwyddor data, ynni adnewyddadwy a datblygu cynaliadwy.

Cymrodoriaethau ôl-raddedig llawn amser a rhan-amser a noddir gan yr Awyrlu Brenhinol yw Cymrodoriaethau'r CAS, a’u nod yw creu papurau ymchwil sy’n canolbwyntio ar bynciau sy'n gysylltiedig â grym awyr yn ogystal â datblygu cyfalaf deallusol yr Awyrlu Brenhinol.

Ar ôl cwblhau eu hastudiaethau, bydd personél yr Awyrlu Brenhinol yn dod yn rhan o'r grŵp ehangach o Gymrodyr CAS, ac wedyn caiff eu sgiliau a'u profiad eu defnyddio i fynd i'r afael â'r gytser o heriau cysyniadol sy'n wynebu'r Awyrlu Brenhinol.

Mae Prifysgol Caerdydd yn gweithio ar y cyd â'r Awyrlu Brenhinol i ddarparu 'Cymrodoriaeth Lloyd George' (MSc mewn Gwyddor Data a Dadansoddeg) a 'Chymrodoriaeth Rosier' (MSc mewn Deallusrwydd Artiffisial).

Caiff y cyrsiau eu cynnal gan Academi Gwyddor Data'r Brifysgol a'u cynnig ar sail amser llawn dros gyfnod o flwyddyn, neu’n rhan-amser dros gyfnod o 3 blynedd.

Mae'r cyhoeddiad, a wnaed mewn seremoni arbennig yn y Brifysgol, yn pwysleisio cefnogaeth barhaus y Brifysgol i'r lluoedd arfog a’i gwaith ar y cyd â nhw.

Yn 2019, llofnododd y Brifysgol Gyfamod y Lluoedd Arfog, sy'n amlinellu ein haddewid i gefnogi myfyrwyr a staff sy'n gysylltiedig â’r Lluoedd Arfog.

Dyma addewid gan y genedl sy'n sicrhau bod y rheiny sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, ar y cyd â'u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg.

Mae’r Brifysgol wedi ennill statws Aur yng Nghynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae’n cydnabod y camau mae’r Brifysgol wedi’u cymryd i gefnogi ei staff, ei myfyrwyr a’u teuluoedd agos, sy’n gysylltiedig â’r lluoedd arfog.

Dyma a ddywedodd yr Athro Rudolf Allemann, Rhag Is-Ganghellor Recriwtio Myfyrwyr Rhyngwladol a Myfyrwyr y DU a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg: "Rwyf wrth fy modd bod yr Awyrlu Brenhinol wedi noddi'r Cymrodoriaethau gwych hyn ac wedi dewis eu cynnal yma ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd ein cryfder a'n harbenigedd sylweddol ym maes gwyddor data a deallusrwydd artiffisial yn rhoi cyfle dysgu amhrisiadwy i'r cymrodyr ac yn rhoi gwybodaeth a phrofiad iddyn nhw a fydd yn rhan annatod o flaenoriaethau'r Awyrlu Brenhinol yn y dyfodol.

"Mae gan Brifysgol Caerdydd hanes hir a gwerthfawr o weithio gyda'r lluoedd arfog a'u cefnogi ac rydyn ni’n hynod o ddiolchgar ac yn falch o'r cyfraniad anhygoel y mae ein lluoedd arfog yn ei wneud dros Gymru, y DU a'r byd."

Dyma a ddywedodd Comodor yr Awyrlu Adrian Williams, Swyddog Awyr yr Awyrlu Brenhinol yng Nghymru: "Hoffwn ddiolch i Brifysgol Caerdydd am eu croeso cynnes yma i'r Awyrlu Brenhinol heddiw. Bu cysylltiadau cryf erioed rhwng yr Awyrlu Brenhinol a Chymru ac mae'r cysylltiadau hynny'n arbennig o gryf yma yn Sgwadron Awyr Prifysgol Cymru, er enghraifft. Drwy gyhoeddi'r Cymrodoriaethau hyn, rwy'n falch ein bod wedi cryfhau'r cysylltiadau rhyngom at y dyfodol."

Rhannu’r stori hon