Ewch i’r prif gynnwys

Mymuna Soleman a Shoruk Nekeb yn ymuno â'r Porth Cymunedol ar gyfer y prosiect ymchwil Ymgynghori Cymunedol er Ansawdd Bywydau.

4 Mawrth 2022

Shoruk Nekeb and Mymuna Soleman
Shoruk Nekeb and Mymuna Soleman

Mae Mymuna Soleman a Shoruk Nekeb wedi ymuno'n ddiweddar â'r Porth Cymunedol ar gyfer y prosiect ymchwil 6 mis Ymgynghori Cymunedol er Ansawdd Bywydau. Penodwyd Mymuma yn Arbenigwr Partneriaethau Cymunedol llawn amser, gyda Shoruk yn cefnogi fel llysgennad myfyrwyr ddeuddydd yr wythnos.

Helo y ddwy ohonoch, allwch chi sôn ychydig amdanoch eich hun?

Mymuna: Fy enw yw Mymuna Soleman ac rwy'n Gymraes Somali a anwyd ac a fagwyd yn Butetown, Caerdydd. Cwblheais fy nwy radd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, BSc mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac MSc mewn Iechyd Cyhoeddus Cymhwysol yn 2014 a 2016. Byddwn yn fy nisgrifio fy hun fel ymgyrchydd, bardd a hyrwyddwr cymunedol dros bopeth yn ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth, hil, braint pobl wyn a sut y gall pobl ddefnyddio eu braint er lles.  Yn fwy diweddar sefydlais y Caffi Braint, man rhithwir pwysig ac amserol a sefydlwyd ac a seiliwyd ar gefn creu man diogel lle'r oedd lleisiau oedd wedi'u hymylu a'u harallu cyhyd bellach yn cael eu croesawu a'u cynnwys, eu parchu ac yn cael gwrandawiad. Rwy'n angerddol o blaid ymgysylltu cymunedol, grymuso lleisiau cymunedol, ond yn bwysicaf oll sicrhau bod perthnasoedd dilys yn cael eu creu gyda llunwyr polisïau er mwyn dylanwadu ar newid cadarnhaol.

Shoruk: Helo – Shoruk ydw i! Rwyf i wrth fy modd yn dweud wrth bobl mai ystyr fy enw yn Arabeg yw Gwawr. Rwy'n gymeriad rhagweithiol, hamddenol sy'n caru dogn da o greadigrwydd. Graddiais yn ddiweddar gyda Rhan 1 mewn Pensaernïaeth o Ysgol Pensaernïaeth Cymru ac rwy wedi bod yn ymwneud â Phafiliwn Grange cyn a thrwy gydol ei ddatblygiad. Mae ei lwyddiant hirdymor yn bwysig iawn i fi ac rwy'n canolbwyntio ar gynnal cysylltiadau ystyrlon yn y gymuned. Rwy'n arweinydd a chyfarwyddwr ifanc yn y Fforwm Ieuenctid ac yn caru ein hardal leol a'i phobl gyfeillgar (O.N. edrychwch ar y cadeiriau a gynlluniais i yn y Pafiliwn!)

Beth yw'r prosiect hwn?

Mymuma: Mae’r prosiect Ymgynghori Cymunedol er Ansawdd Bywydau yn edrych ar Ymgynghori Cymunedol - beth mae hynny'n ei olygu i gymunedau, sut y gellid ei wneud yn wahanol a sut mae pobl nad ydyn nhw fel arfer yn ymwneud â'r broses ymgynghori yn cael lle a llais i effeithio ar y broses mewn ffordd gadarnhaol. Yn dilyn cyfres o sgyrsiau rhwng hyn a mis Mai, rydyn ni'n edrych ymlaen at gynnal 'ystafell Drefol' sy'n golygu llogi'r ystafell Felen ym Mhafiliwn Grange am fis a gwahodd pobl i wneud gweithgareddau sy'n seiliedig ar gwestiynau o fewnbwn cymunedol i ymgynghori.

Shoruk: Byddwn ni'n cynnal mis o ddigwyddiadau ym mis Mai, yn seiliedig ar bedair prif thema - byddaf i'n edrych yn benodol ar leisiau pobl ifanc yn y broses ymgynghori, mewn cydweithrediad â thîm y Ddinas sy'n Dda i Blant.

Mymuna: Caiff y safbwyntiau hyn a gaiff eu holi drwy gyfres o gwestiynau eu gosod ar fapiau digidol a fydd gobeithio yn dylanwadu'n gadarnhaol ar lunwyr polisïau i gynnal Ymgynghori Cymunedol mewn ffordd sy'n gweithio i'r cymunedau o'r dechrau.

Sut gall pobl gymryd rhan yn yr Ystafell Drefol?

Y dyddiadau arfaethedig fydd yn seiliedig ar bedair thema yw:

* Wythnos 1 (2-8 Mai) - Iechyd a Lles

* Wythnos 2 (9-15 Mai) - Tai

* Wythnos 3 (16-22 Mai) - Mannau Gwyrdd

* Wythnos 4 (23-29 Mai) - Lleisiau Ifanc

Rydyn ni'n deall nad oes gan bawb fynediad at ffôn clyfar, gliniadur neu gyfrifiadur, nac yn siarad neu'n darllen Saesneg. I fod mor gynhwysol â phosibl, a heb ychwanegu rhwystrau pellach, rydyn ni wedi penderfynu cynnal sesiwn galw heibio ym Mhafiliwn Grange bob dydd Mercher o 2pm ymlaen.

Beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf dros y chwe mis nesaf?

Shoruk: Rwy'n llawn cyffro i gael cymryd rhan, gan fod cyfle gwych i hyn fwydo i brosiectau byw a chynnwys anghenion pobl yn y camau penderfynu. Rwy'n edrych ymlaen at sgyrsiau dwfn, craff a chael fy mhobl ifanc lleol i ddechrau meddwl mwy am yr hyn sydd o'u cwmpas a'r amgylchedd adeiledig.

Mymuna: Fy nod ar gyfer y prosiect yw ymgysylltu â chymaint o bobl ag y gallaf, dweud wrthyn nhw am y prosiect ond hefyd cyflwyno'r achos nad rhywbeth tocynistaidd yw hyn – ‘dyn ni ddim am 'gymryd' barn na gwastraffu amser pobl mewn prosiect nad yw'n mynd i unman. Byddaf i'n gweithio'n galed i feithrin cysylltiadau cadarnhaol, codi ymwybyddiaeth o ymgynghori cymunedol gwahanol, gwrando'n ystyrlon, derbyn beirniadaeth i wneud yn well cyn ac ar ôl yr Ystafell Drefol, a hyd yn oed ar ôl i'r prosiect ddod i ben; rwyf i am weld sut y bydd yr hadau rwyf i'n eu plannu yn tyfu ac yn ffynnu.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect ewch i https://ccqol.org neu cysylltwch â solemanm@caerdydd.ac.uk a dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf (@voicescardiff). Byddem ni wrth ein bodd i'ch cael chi'n cymryd rhan, a'ch cynnwys fel rhan o'r daith gyffrous hon.

Rhannu’r stori hon