Y diweddaraf am yrfa Matthew Congreve
4 Mawrth 2022
Enillodd Matthew Congreve radd BScEcon Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth yma yn 2018 ac, y llynedd, daeth trwy Ffrwd Gyflym y Gwasanaeth Sifil i rôl Ail Glerc Pwyllgor Amddiffyn Tŷ'r Cyffredin.
Ers hynny, mae Matthew wedi symud i rôl newydd ym maes cysylltiadau rhyngseneddol trwy gynorthwyo dirprwyon y deyrnas i gynulliadau seneddol NATO a Sefydliad Diogelu a Chydweithredu Ewrop (OSCE).
Cysyllton ni â Matthew i ddysgu rhagor am ei swydd a’r modd mae’i gyfnod yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth wedi’i helpu i wireddu ei uchelgais ynghylch gyrfa wleidyddol.
Llongyfarchiadau ar eich rôl newydd Matthew! Allech chi ddweud ychydig amdani a'ch dyletswyddau bob dydd?
Fis Rhagfyr, dechreuais ym maes cysylltiadau rhyngseneddol trwy gynorthwyo dirprwyon y deyrnas i gynulliadau seneddol NATO ac OSCE.
Yn y cynulliadau hynny, daw seneddwyr o’r gwledydd sy’n perthyn i NATO neu OSCE i drafod materion perthnasol mewn amryw bwyllgorau. Fy rôl i yw cydweithio'n agos â’n dirprwyon (aelodau seneddol ac arglwyddi) yn enwedig yr arweinyddion. Bydda i’n mynd i gynadleddau a chyfarfodydd cynulliadau NATO ac OSCE ledled Ewrop a gogledd America. Wrth deithio, bydd pob diwrnod yn eithaf dwys gan fynd i gyfarfodydd gyda’r dirprwyon a chymryd rhan yn sesiynau llawn neu gyfarfodydd pwyllgorau’r cynulliadau. Ar wahân i deithio, rhaid ysgrifennu papurau hysbysu i’r aelodau a datganiadau i’r wasg, ymgysylltu â’m cyfatebion rhyngwladol a chynllunio ar gyfer cyfarfod nesaf y cynulliad. Er mai dim ond tîm bychan ydyn ni i gynorthwyo dirprwyon y deyrnas hon, rwyf i o’r farn ein bod o gymorth mawr iddyn nhw gan eu helpu i ddweud eu dweud am faterion NATO ac OSCE.
Buoch chi yn Senedd San Steffan am bedair blynedd. Allech chi ddisgrifio’r trywydd arweiniodd yno?
Ddeufis ar ôl gadael Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth fis Gorffennaf 2018, ymunais â Rhaglen Datblygu’r Graddedigion neu Ffrwd Gyflym y Gwasanaeth Sifil, fel y’i gelwir, yn Senedd San Steffan.
Fe es i yno’n Ail Glerc (Dirprwy Bennaeth Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor) i Bwyllgor Materion Cymru a Phwyllgor Materion Gogledd Iwerddon. Byddwn i’n helpu’r pwyllgorau i archwilio gwaith eu hadrannau gwladol trwy lunio rhaglenni, paratoi papurau hysbysu a threfnu ymweliadau â lleoedd yn y deyrnas hon a thramor. Bues i yn rôl arweiniol staff y pwyllgor mewn rhai ymchwiliadau i nifer o bynciau megis masnach a thollau ar ôl ymadael ag Undeb Ewrop, rhoi cymorth i ddioddefwyr ymosodiadau’r IRA a thwristiaeth. Ysgrifennais ddau adroddiad i bwyllgorau dethol yn ystod y cyfnod hwnnw, y naill am gymorth i ddioddefwyr ymosodiadau’r IRA a’r llall am gymorth i ddinasoedd a thwf economaidd Cymru.
Wedi hynny, bues i yn rôl Ail Glerc Pwyllgor Amddiffyn y Deyrnas. Hanfod y gwaith hwnnw oedd llunio rhaglenni, paratoi papurau hysbysu, ysgrifennu adroddiadau a threfnu ymweliadau mewnol a rhyngwladol y pwyllgor. Byddwn ni’n rheoli rhaglen arferol yr is-bwyllgorau gan gynnwys ymchwiliadau i ddiogelwch 5G, rôl cyrff tramor yng nghadwyn cyflenwi’r lluoedd arfog a thrin a thrafod contractwyr gwasanaethau ategol Gweinyddiaeth yr Amddiffyn. Y tu allan i’r rôl graidd, byddwn i’n helpu i drefnu ymweliadau â gwledydd eraill yn ogystal â chroesawu ymwelwyr o dramor a bod yn swyddog gyswllt rhwng Tŷ’r Cyffredin a’r prifysgolion yn y deyrnas hon sy’n cynnal modiwl yr Astudiaethau Seneddol. Academyddion a rhai o swyddogion Senedd San Steffan sy’n cynnal y modiwl hwnnw gan roi i fyfyrwyr wybodaeth fanwl am agweddau ymarferol a damcaniaethol Senedd San Steffan. Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn cynnig y modiwl hwnnw hefyd ac, felly, roedd yn wych cwrdd â'm cyn-ddarlithwyr eto.
Mae’n ymddangos bod Ffrwd Gyflym y Gwasanaeth Sifil wedi’ch cymathu ym mywyd Tŷ’r Cyffredin yn syth! Allech chi gynghori’n myfyrwyr presennol ynghylch ymuno â’r cynllun?
Dechreuodd y broses ryw flwyddyn cyn gadael y brifysgol pan gyflwynais gais ddechrau’r flwyddyn olaf. Mae’r Ffrwd Gyflym yn cynnig amryw ddewisiadau megis rhaglen Senedd San Steffan. Mae Ffrwd Gyflym y Gwasanaeth Sifil yn eithaf adnabyddus, ond roedd ffeiriau a darlithoedd gyrfaol Prifysgol Caerdydd a’r cyfle i drafod dewisiadau gyda gwasanaeth y gyrfaoedd o gymorth mawr.
Helpodd gwasanaeth gyrfaoedd Prifysgol Caerdydd i baratoi cais ac ymarfer ar gyfer rhai o'r profion ar-lein. Mae’r broses yn un weddol hir ac ynddi amryw gamau megis paratoi a chyflwyno cais, profion ar-lein, cyfweliad fideo, canolfan asesu a’r cyfweliad terfynol gerbron bwrdd. A minnau wedi dechrau’r ymgeisio fis Hydref, dim ond tua diwedd mis Chwefror y ces i wybod bod swydd gyda fi. Felly, gallwn i fwynhau’r semester olaf gan wybod fy mod wedi dod o hyd i swydd yn barod.
Byddwn i’n cynghori pawb i ddechrau ystyried cyfleoedd yn gynnar, meddwl am interniaethau ar ôl y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn ac ymgeisio am gynlluniau i raddedigion ddechrau’r flwyddyn olaf. Mae’n werth ymgeisio am nifer o gynlluniau fel y cewch chi’r cynnig delfrydol yn y diwedd. Mewn bywyd arall, gallaswn i fod yn swyddog ym Manc Lloegr neu’r Morlu Brenhinol!
Rydych chi wedi sôn am gymorth y brifysgol o ran gyrfaoedd, ond beth am eich amser yma yn gyffredinol?
Ces i fy magu yn y de ac, felly, Caerdydd oedd fy mhrif ddinas leol. Roedd y ddinas ei hun yn atyniad mawr, gan ei bod yn brifddinas fechan hawdd ei hadnabod ac yn llawn gweithgareddau. Astudiais wleidyddiaeth ar gyfer y Safon Uwch gan ymddiddori yn y pwnc, ac fe ges i beth profiad trwy weithio dros yr aelod seneddol lleol. Roedd cwrs Prifysgol Caerdydd yn ddeniadol am ei fod yn cynnig cyfle i astudio dramor, bwrw tymor yn y flwyddyn olaf a dewis o blith amryw bynciau cysylltiadau rhyngwladol neu wleidyddiaeth.
I rywun a chanddo ddiddordeb yn y gwasanaeth gwladol neu’r sector gwleidyddol, mae Caerdydd yn llawn cyfleoedd megis Llywodraeth Cymru, Senedd Cymru, cyrff cyhoeddus neu seiadau doethion. Bues i’n intern yng Ngwasanaeth Ymchwil y Senedd yn ogystal â chwmni ymchwil wleidyddol ym Mae Caerdydd.
Mwynheais y cyfnod yn y brifysgol yn fawr ac roedd rhai modiwlau’n ddefnyddiol ar gyfer fy ngyrfa, yn enwedig bwrw tymor yn y drydedd flwyddyn a modiwl y dulliau ymchwil yn yr ail. Y bwrw tymor i mi oedd un diwrnod yr wythnos yng Ngwasanaeth Ymchwil y Senedd, ac rwy’n credu bod hynny wedi atgyfnerthu’r cais am fy rôl yn Nhŷ'r Cyffredin. Mae Rhaglen Cyfleoedd Ymchwil Graddedigion Prifysgol Caerdydd (CUROP) yn cynnig cyfle i fyfyrwyr weithio am gyflog ochr yn ochr ag academyddion. Yn ystod fy haf cyntaf, bues i gyda'r Athro Roger Awan-Scully yn Astudiaeth Etholiadol Cymru 2016. Roedd y medrau dadansoddi a ddysgais yn ddefnyddiol iawn ar gyfer fy nhraethawd hir ar bwysigrwydd hunaniaeth yn etholiadau cyffredinol Cymru. Ces i gyfle i gydweithio ag academyddion mewn dwy raglen ymchwil eraill hefyd, y naill am batrymau pleidleisio yn y Cynulliad a’r llall am oblygiadau hanes cythryblus Gogledd Iwerddon i’w gwleidyddiaeth bresennol.
Mae llawer o atgofion melys gyda fi am y cyfnod yng Nghaerdydd, ac roedd astudio yn yr Unol Daleithiau yn brofiad gwych, hefyd. Treuliais semester yng Ngholeg William a Mary yn Virginia yn ail hanner fy ail flwyddyn. Roedd Prifysgol Caerdydd yn gefnogol iawn yn hynny o beth. Cynhaliodd y brifysgol ddarlithoedd a seminarau am astudio dramor a sut mae ymgeisio, gan fy helpu i baratoi cais a rhoi peth arian ar gyfer treuliau trwy Ganolfan y Cyfleoedd Byd-eang ar ôl imi gael gwybod ble y byddwn i’n astudio. Mae astudio dramor yn brofiad gwych, a byddwn i’n annog unrhyw fyfyriwr i gymryd rhan ynddo. Rwyf i o’r farn imi ddatblygu’n bersonol yno ac mae atgofion melys gyda fi am hel ffrindiau o bob cwr o’r byd, teithio ar hyd arfordir dwyreiniol UDA a phrofi math gwahanol o addysgu a dysgu.
Wrth edrych yn ôl, pa gyngor y byddech chi'n ei roi i chi'ch hun yn fyfyriwr?
Manteisio i’r eithaf ar bob cyfle sydd ar gael i fyfyriwr. Rwyf i o’r farn imi wneud hynny ond rwy’n synnu faint o bobl nad ydyn nhw’n astudio dramor, cymryd cyfleoedd i fod yn intern neu gyflawni gwaith gwirfoddol. Yn ogystal â chymryd rhan mewn cyfleoedd diddorol, rhaid gwneud y gorau o gyfleusterau’r brifysgol, siarad â’ch darlithwyr am eu hymchwil a chynnig eu helpu, defnyddio gwasanaeth y gyrfaoedd cyn gynted ag y bo modd a chadw golwg ar yr hyn mae Undeb y Myfyrwyr yn ei wneud.