Modelu pandemigau: Mathemateg a goroesi Sombïaid
1 Mawrth 2022
Mae Dr Thomas Woolley o'r Ysgol Mathemateg wedi cyflwyno fideo-gwe o'r enw ‘The Mathematics of Surviving Zombies’ sy'n defnyddio modelu mathemategol i ddangos faint o amser y gallai pobl oroesi apocalyps â sombïaid. Mae dull unigryw a doniol y ffilm o astudio epidemioleg drwy fathemateg wedi bod yn hynod boblogaidd ac mae pobl wedi ei weld mwy na chwarter miliwn o weithiau ar-lein.
Mae’r ffilm, sy’n ymddangos ar y sianelNumberphile, yn canolbwyntio ar ddefnyddio trylediad i fodelu llusgo traed ar hap nodweddiadol y sombi. Wrth wisgo ei wasgod sombi, mae Dr Thomas yn esbonio sut mae'r fformiwlâu mathemategol yn helpu i arwain at amseroedd rhyngweithio, gan arwain yn eu tro at wneud casgliadau ynghylch y ffyrdd gorau o ohirio’r ffaith anochel y bydd pobl a sombïaid yn cwrdd â’i gilydd. Wedyn, mae'n ychwanegu cineteg ryngweithio at y system ac yn ystyried o dan ba amodau y gall bodau dynol oroesi eu tynged.
Mae astudio epidemioleg drwy fathemateg wedi bod ar flaen y gad o ran brwydro yn erbyn pandemig byd-eang COVID-19 yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac mae mathemateg sombïaid yn dangos yr un fathemateg â ffliw, brech yr ieir, neu unrhyw glefyd heintus arall.
Dyma a ddywedodd Dr Woolley:
"Mae mathemateg sombïaidi yn seiliedig ar waith wnes i yn 2014. Mae mathemateg epidemigau yn faes ymchwil sydd bob amser yn tyfu. Yr oll wnes i oedd ychwanegu elfen arall at y fathemateg er mwyn gwneud iddi apelio at gynulleidfa ehangach. Pwy fyddai wedi meddwl, saith mlynedd yn ddiweddarach, y byddwn i’n defnyddio’r math hwn o fathemateg o ddifrif wrth weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddeall sut mae heintiau'n ymledu mewn ystafelloedd dosbarth?"
Mae Dr Woolley hefyd wedi bod yn rhan o'r gwaith o greu ap Efelychydd Ymyrraeth COVID-19 i Lywodraeth Cymru ei ddefnyddio. Mae'r ap yn helpu i ragweld sut mae heintiau yn ymledu mewn ystafell ddosbarth o dan ymyriadau gwahanol.