Astudiaeth newydd ar iechyd meddwl a boddhad bywyd ymhlith plant ysgol yng Nghymru
24 Mawrth 2022
Mae ymchwilwyr o Ganolfan Wolfson a DECIPHer wedi gwneud gwaith yn edrych ar newidiadau mewn iechyd meddwl a boddhad bywyd ymhlith plant 10-11 oed yng Nghymru, cyn pandemig COVID-19 a blwyddyn ar ôl iddo ddechrau.
Gosododd pandemig COVID-19, a'r ymatebion cyhoeddus iddo, gyfyngiadau sylweddol ar fywydau plant yn 2020 a 2021, gan gynnwys cau ysgolion a chyfyngiadau ar chwarae. Roedd llawer o blant a phobl ifanc yn agosau at gerrig milltir fel pontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd, a hynny ar ôl colli misoedd lawer o addysg wyneb yn wyneb dros y ddwy flynedd ysgol flaenorol.
Bu ymchwil dan arweiniad yr Athro Graham Moore o Ganolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc a DECIPHer yn edrych ar y newid mewn anawsterau iechyd meddwl, boddhad bywyd, cysylltiad â’r ysgol, a theimladau am bontio i'r ysgol uwchradd ymhlith plant ysgol Cymru dros y cyfnod hwn.
Defnyddiodd yr ymchwilwyr ddata o arolygon trawstoriadol o dros 4,000 o blant ysgol rhwng deg ac un ar ddeg oed, a gasglwyd cyn ac ar ôl dechrau pandemig COVID-19.
Dywedodd yr Athro Graham Moore: “Cwblhaodd y garfan gyntaf o tua 2,000 o blant ysgol yr arolwg ysgol cyntaf yn 2019, cyn cyflwyno mesurau cadw pellter cymdeithasol ledled y DU. Cwblhaodd 2,000 arall ail arolwg yn 2021. Ar adeg yr ail arolwg, roedd disgyblion newydd ddychwelyd yn llawn i'r ysgol ar ôl dau gyfnod hir pan oedd ysgolion ar gau i'r rhan fwyaf o'r disgyblion."
Dangosodd y canlyniadau fod y ganran o blant oedd yn nodi anawsterau emosiynol uwch wedi codi o 17% yn 2019 i 27% yn 2021. Prin oedd y dystiolaeth o newid mewn anawsterau ymddygiad. Cwympodd boddhad bywyd ym mhob dadansoddiad, er nad oedd hyn yn arwyddocaol yn y rhan fwyaf o achosion.
Ychwanegodd yr Athro Moore: "Gwelsom gynnydd arbennig o fawr mewn anawsterau emosiynol flwyddyn i mewn i'r pandemig. Mae'n debygol y bydd y rhain yn gwella i rai plant, wrth i ni symud y tu hwnt i'r pandemig a'r mesurau rheoli cysylltiedig. Fodd bynnag, i lawer, mae'n bosibl y caiff profiadau'r pandemig effaith gydol oes oni cheir cymorth digonol ar gyfer ymadfer.
"Doedd dim tystiolaeth o newid o ran perthnasoedd athrawon, perthnasoedd disgyblion nac ymwneud disgyblion â bywyd yr ysgol. Mae'n bosibl bod cynnal cysylltiad â'r ysgol drwy gydol y pandemig wedi helpu i atal cynnydd mwy llym fyth mewn anawsterau iechyd meddwl plant."

Canfu'r ymchwil hefyd nad oedd tystiolaeth fod y pandemig yn effeithio ar deimladau plant am bontio i'r ysgol uwchradd, gyda'r teimladau'n fwy cadarnhaol wrth i'r pontio agosáu.
Fel y casglodd yr Athro Moore: “Byddwn yn parhau i weithio gyda chydweithwyr yng Nghanolfan Wolfson a DECIPHer i gynnal ymchwil pellach i ddeall yn well sut y gallwn wella canlyniadau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yma yng Nghymru a ledled y byd.”
Cyhoeddwyd yr astudiaeth, Mental health and life satisfaction among 10–11-year-olds in Wales, before and one year after onset of the COVID-19 pandemic, gan Springer ac mae i'w gweld ar-lein.
Casglwyd y data a ddadansoddwyd ar gyfer yr astudiaeth fel rhan o gynllun peilot a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar ehangu'r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion i ysgolion cynradd yng Nghymru. Darllenwch yr adroddiad sy’n darparu data disgrifiadol ar set eang o ganlyniadau llesiant plant yn 2021.