Ewch i’r prif gynnwys

Rhagor o amlygrwydd i farn siaradwyr Cymraeg yn sgîl offeryn ar-lein newydd

1 Mawrth 2022

Mae ieithyddion ym Mhrifysgol Caerdydd yn gweithio gydag arbenigwyr data i ddatblygu platfform ar-lein dwyieithog i ddadansoddi data arolygon, a hynny yn rhad am ddim.

Gan weithio gydag academyddion ym Mhrifysgol Caerhirfryn yn ogystal â Cadw ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, bydd prosiect FreeTxt | TestunRhydd yn golygu y gall sefydliadau mawr ymateb yn gyflym i farn defnyddwyr yn Gymraeg a Saesneg fel ei gilydd.

Mae adborth ansoddol ar ffurf testun-rhydd a geir mewn arolygon a holiaduron yn peri cryn her i ystod o gwmnïau a sefydliadau preifat a chyhoeddus nad ydyn nhw hwyrach yn meddu ar y sgiliau a'r arbenigedd i brosesu a dadansoddi'r sylwadau hyn yn rhwydd.

O ganlyniad i Ddeddf yr Iaith Gymraeg, mae gan y rheiny sy’n ymateb i arolygon yng Nghymru y cyfle i ymateb i arolygon yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd hyn yn peri mwy byth o her wrth ddadansoddi’r data sy’n deillio o’r arolygon os na fydd digon o arbenigedd yn y Gymraeg yn y gweithlu neu os bydd rhai o'r ymatebion a gyflwynir yn gymysg yn ieithyddol (h.y. rhai yn Gymraeg a rhai yn Saesneg).

Er bod ystod o offer digidol soffistigedig ar gael i ddadansoddi data sy'n seiliedig ar destunau, yn enwedig yn achos ymchwilwyr sy'n gweithio yn y byd academaidd, byd marchnata a chysylltiadau cyhoeddus, mae'r offer hyn yn gostus i danysgrifio iddyn nhw ac nid ydyn nhw’n cefnogi'n llawn y dasg o brosesu ymatebion testun rhydd Cymraeg eu hiaith yn systematig.

Dyma a ddywedodd Dr Dawn Knight, arweinydd y prosiect yn Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd: “Yn ein diwylliant modern dan arweiniad defnyddwyr, mae'r broses o gael adborth ac ymateb iddo’n treiddio i bob agwedd ar ein bywyd. Bydd adborth yn sgîl arolygon, grwpiau ffocws a holiaduron weithiau’n cynnwys sylwadau 'testun rhydd' sy'n gyforiog o iaith, ac yn aml gall fod yn her prosesu a dadansoddi’r rhain â llaw, yn rhwydd, oherwydd hyd y sylwadau.

“ Yn y prosiect hwn, ein nod yw creu pecyn cymorth ar-lein fydd yn rhad ac am ddim, sef FreeTxt | Testunrhydd, a fydd ar gael i unrhyw un mewn unrhyw sector i gefnogi’r gwaith o ddadansoddi sawl math o ddata testun rhydd penagored yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd y platfform yn dadansoddi nifer o sylwadau yn gyflym, gan ddod o hyd i themâu cyffredin, ac felly bydd modd gweithredu ar adborth pwysig yn effeithlon.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd y prosiect hwn yn arbennig o ddefnyddiol i sefydliadau wrth iddyn nhw weithio i sicrhau bod y rheiny y mae’n well ganddyn nhw gyfathrebu yn y Gymraeg yn cael cyfle cyfartal i roi sylwadau ac adborth.”

Bydd defnyddwyr yr offeryn yn gallu mewngofnodi data arolygon. Wedyn bydd y platfform yn prosesu'r testun yn gyflym fel y bydd modd gweld y geiriau sy'n ymddangos amlycaf mewn ffordd sy’n hawdd i’w dehongli.

Bydd yr academyddion yn gweithio'n agos gyda phartneriaid y prosiect, sef Cadw ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, i ddylunio, creu a phrofi FreeTxt | TestunRhydd ar y cyd, i sicrhau bod yr adnodd yn addas i'r diben ac yn diwallu anghenion ymatebion Cymraeg a Saesneg mewn ffordd deg a chyson.

Mae'r prosiect hwn yn dilyn gwaith blaenorol gan Dr Knight, CorCenCC (Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes), sy'n gasgliad hygyrch o samplau iaith lluosog a gasglwyd o enghreifftiau o gyfathrebu yn y byd go iawn.

Dyma a ddywedodd Cyd-Ymchwilydd y Prosiect, yr Athro Paul Rayson, sy'n gweithio yn yr Ysgol Cyfrifiadura a Chyfathrebu yn InfoLab21, Prifysgol Caerhirfryn: “Rydyn ni’n edrych ymlaen at fynd i'r afael â data Cymraeg unwaith eto yn dilyn ein gwaith llwyddiannus blaenorol ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd ar brosiect CorCenCC.

“Ar y cyd â fy nghydweithwyr, Dr Mo El-Haj a Dr Ignatius Ezeani, byddwn ni’n creu set o offer i ddadansoddi testunau Cymraeg a Saesneg ac yn sicrhau eu bod ar gael, yn rhad ac am ddim, drwy'r offeryn dadansoddi data arolygon ar-lein. Bydd gweithio gyda’n partneriaid Cadw ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn arwain at fewnbwn cryf gan y rhanddeiliaid o ran dyluniad yr offeryn ar gyfer defnyddwyr. Wrth gyd-arbrofi gyda’r rhanddeiliaid, byddwn ni’n gallu barnu pa mor ddefnyddiol fydd yr offeryn o ran cynyddu eu gallu eu hunain i ddadansoddi ymatebion i arolygon sy’n cynnwys testun rhydd.”

Dyma’r hyn a ddywedodd Rebecca Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymgynghori Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru: "Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Phrifysgolion Caerdydd a Lancaster ar brosiect FreeTxt/TestunRhydd. Nid oes offeryn ar y farchnad sy'n ein galluogi i fesur teimladau yn Gymraeg, felly ein gobaith yw y bydd yr offeryn hwn yn ein galluogi i ddeall adborth ysgrifenedig yn fwy cywir yn ogystal ag agor y drws i sefydliadau ddehongli a gweithredu ar ddata a gyflwynir yn Gymraeg.

Mae adborth gan ein cefnogwyr yn helpu i lywio ein blaenoriaethau, ein rhaglenni, ein digwyddiadau a llawer mwy, a thrwy gael offeryn sy'n ein helpu i adnabod y themâu allweddol, byddwn ni’n gallu gwella dealltwriaeth pobl o'r Ymddiriedolaeth yn ogystal â’u profiadau pan fyddan nhw’n ymweld â ni.

Rhannu’r stori hon