Ewch i’r prif gynnwys

Cyflogwr cynhwysol ymhlith y 10 gorau

25 Chwefror 2022

Mae Prifysgol Caerdydd ymhlith y deg cyflogwr mwyaf cynhwysol ym Mhrydain, yn ôl Stonewall, elusen LHDTQ+ fwyaf Ewrop.

Yn ei Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle 2022, mae'r Brifysgol yn y 7fed safle yn gyffredinol, ac mae hefyd yn ennill Gwobr Aur sy'n cydnabod safon ei gwaith yn y maes hwn.

Dyma'r brifysgol uchaf yn y DU sydd yn y Mynegai ac mae'n codi o'r 10fed safle yng nghanlyniadau 2020. Cafodd rhwydwaith LHDT+ staff y Brifysgol, Enfys, Gymeradwyaeth Uchel gan y Mynegai hefyd.

Meddai’r Athro Damian Walford Davies, Dirprwy Is-Ganghellor: “Rydym yn falch o'n hymrwymiad i fod yn gyflogwr cynhwysol i bobl LHDTQ+. Mae ein safle eleni yn adlewyrchiad o dros ddegawd o waith i wneud ein gweithle yn fwy cynhwysol - gwaith sydd wedi parhau yng nghanol y newidiadau

enfawr y mae pandemig COVID-19 wedi'u dwyn i'n bywydau gwaith. Mae'n dyst i ymdrechion ein staff wrth i ni greu gweithle sy’n groesawgar i bawb.”

Mae rhai o'r camau y mae'r Brifysgol wedi'u cymryd i greu gweithle cynhwysol ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws a queer yn cynnwys hyrwyddo modelau rôl LHDTQ+, cefnogi arweinyddiaeth i ddeall y materion sy'n effeithio ar bobl LHDTQ+, ymgysylltu â grwpiau cymunedol LHDTQ+ ac edrych ar y ffordd orau o gefnogi ein cymuned o fyfyrwyr LHDTQ+.

Meddai Karen Harvey-Cooke, cadeirydd Enfys: “Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn gyfnod heriol i'r gymuned LHDTQ+. I roi ychydig o enghreifftiau yn unig, rydym wedi gweld cynnydd mewn troseddau casineb ac effeithiau hirhoedlog y pandemig. Mae'n hanfodol bod cyflogwyr yn gweithio'n galed i greu amgylchedd gwaith cefnogol a chynhwysol fel y gall pawb ffynnu.

Rhannu’r stori hon