Lleisiau datganoledig i godi llais ar y Bil Hawliau
24 Chwefror 2022

Bydd Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn ymuno â phartneriaid o bob rhan o’r DG i roi llwyfan i’r llywodraethau datganoledig fynegi pryderon ynghylch y Bil Hawliau newydd.
Mae Llywodraeth y DG wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar ddisodli Deddf Hawliau Dynol 1998 gyda Bil Hawliau a fyddai, fel y mae ar hyn o bryd, yn lleihau amddiffyniadau cyfreithiol i hawliau dynol yn y DG yn sylfaenol, gan gynnwys yn y ffordd y mae pobl yn rhyngweithio â chyfreithiau datganoledig.
Mewn digwyddiad ar-lein ar 2 Mawrth, a drefnodd y Consortiwm Hawliau Dynol yng Ngogledd Iwerddon, Consortiwm Hawliau Dynol yr Alban a Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru, bydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn nodi eu safbwyntiau a’u pryderon am y cynigion.
Mae’r digwyddiad yn agored i bawb ond bydd o ddiddordeb arbennig i unigolion a grwpiau sy’n gweithio mewn cymdeithas sifil ym meysydd hawliau dynol a’r cyfansoddiad. Mae modd cofrestru yma.