Dathliadau Tsieineaidd yn dod yn fyw mewn ystafelloedd dosbarth Cymru
22 Chwefror 2022
Denodd Gŵyl y Gwanwyn eleni filoedd o ddisgyblion o bob cwr o Gymru, gyda bron 100 o athrawon yn cofrestru eu dosbarthiadau i gymryd rhan yn y digwyddiad undydd, y sesiynau a gofnodwyd, neu'r ddau.
"Cipolwg arloesol a diddorol ar ddiwylliant Tsieina i'n disgyblion."
Roedd plant o flynyddoedd 1 i 13 yn mwynhau amrywiaeth eang o sesiynau rhyngweithiol byw a sesiynau wedi'u recordio i'w croesawu ym Mlwyddyn y Teigr. Roedd y rhain yn amrywio o adrodd straeon, lle'r oedd plant yn gwrando ar chwedlau clasurol am 'dduwiau drysau' a 'duwiau cyfoethog' Tsieina; dysgu am y Sidydd Tsieineaidd, gan gynnwys pa anifail yr oeddent yn gysylltiedig ag ef a beth oedd hynny'n ei olygu; darganfod yr holl wahanol fwydydd a fwyteir yn ystod y cyfnod hwn, a sut maent yn amrywio ledled y wlad; a dysgu am y gweithgareddau sy'n digwydd ar hyn o bryd megis Gala Gŵyl y Gwanwyn liwgar CCTV 中国中央电视台春节联欢晚会 a physgota iâ 冰钓.
"Cipolwg llawn hwyl ar draddodiad sydd â chymaint o hanes."
Bu disgyblion hefyd yn cymryd rhan mewn gweithdai rhyngweithiol ynglŷn â chelf a chrefft traddodiadol, gan ysgrifennu eu caligraffi Tsieineaidd eu hunain a gwneud teigrod gan ddefnyddio'r grefft hynafol o dorri papur.
"Amrywiaeth gwych o adnoddau - fe wnaethon nhw ddod â'r dathliad yn fyw yn yr ystafell ddosbarth!"
Cafodd y disgyblion a gymerodd ran yn yr ŵyl yn fyw ar 1 Chwefror hyd yn oed gyfle i gyfathrebu â'r tiwtoriaid gan ddefnyddio opsiwn Sgwrs. Roedd hyn yn arbennig o boblogaidd yn ystod y sesiynau adrodd straeon, lle'r oedd plant yn gallu 'siarad' â'r tiwtor a gofyn pob math o gwestiynau am fodau chwedlonol o chwedlau Tsieineaidd.
"Roeddem yn awyddus i'n disgyblion glywed 'llais' Tsieineaidd go iawn yn cyflwyno'r gwersi."
Dewch i brofi awyrgylch yr ŵyl drosoch eich hun
Dysgwch am Ŵyl y Gwanwyn drwy wylio'r fideos o'r diwrnod, gyda'ch disgyblion neu ar eich pen eich hun.
Yn dilyn y digwyddiad undydd ar 1 Chwefror, roedd y fideos ar gael ar wefan Prifysgol Caerdydd. Dewisodd llawer o athrawon ddefnyddio'r sesiynau fel hyn, os oeddent wedi colli rhai ar y diwrnod neu am eu dangos i wahanol ddosbarthiadau. Gall addysgwyr cartref ddefnyddio'r fideos hefyd, yn ogystal ag unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am Ŵyl y Gwanwyn neu gael cipolwg ar ddiwylliant Tsieina.
Dewch o hyd i'r fideos yma.
Dewiswch groesawu’r Cwricwlwm Newydd ar gyfer Cymru
Helpwch eich disgyblion i ddod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus am y byd gyda mwy o ddigwyddiadau ar-lein gan Sefydliad Confucius Caerdydd.
Yr ŵyl hon oedd y cyntaf o gyfres o weithgareddau rhithwir a gynlluniwyd ar gyfer ysgolion yn 2022. Fe'u dyluniwyd i roi cyfle i ddisgyblion ledled Cymru gael cipolwg amhrisiadwy ar ddathliadau allweddol yn Tsieina trwy weithdai, sgyrsiau a sesiynau rhyngweithiol.
Cynhelir ein dathliadau ar-lein nesaf ddechrau'r haf ar gyfer Gŵyl Gychod Dreigiau, ac ym mis Medi/Hydref ar gyfer Gŵyl Canol yr Hydref.
Os hoffech gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y ddau ddigwyddiad hyn a gweithgareddau eraill gan Brosiect Ysgolion Cymru Tsieina, cofrestrwch i'n cylchlythyr yma.