Dr Emma Yhnell ar y rhestr fer ar gyfer Athro Biowyddoniaeth Addysg Uwch y Flwyddyn yr RSB 2022
22 Chwefror 2022
Mae'r darlithydd yn Ysgol y Biowyddorau wedi'i henwebu am wobr genedlaethol bwysig, sy'n dathlu llwyddiant eithriadol mewn addysgu yn y biowyddorau ar lefel prifysgol
Llongyfarchiadau i Dr Emma Yhnell, un o dri a gyrhaeddodd rownd derfynol gwobr Athro Bioleg Addysg Uwch y Flwyddyn yr RSB (Cymdeithas Frenhinol Bioleg).
Mae Dr Yhnell, sy'n gyfathrebwr gwyddoniaeth arobryn, wedi'i chydnabod am ei dull o ymgysylltu'n weithredol gyda'i myfyrwyr - gan eu hannog i gofleidio heriau a gwerthfawrogi eu sgiliau gwyddonol.
Dywedodd Dr Yhnell: "Mae'n fraint enfawr i fi gael fy ngosod ar y rhestr fer am y wobr hon ochr yn ochr ag addysgwyr mor wych ac ysbrydoledig yn y biowyddorau. Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd i addysgwyr, a hoffwn ddiolch i'r myfyriwr a'm henwebodd yn y lle cyntaf yn ogystal â'r cydweithwyr rhyfeddol sydd wedi fy nghefnogi."
Dywedodd Arweinydd Is-adran Addysg Ysgol y Biowyddorau, yr Athro Steve Rutherford: "Mae Emma yn addysgwr eithriadol ac arloesol. Boed hi'n addysgu myfyrwyr blwyddyn gyntaf, blwyddyn olaf, disgyblion ysgol neu'r cyhoedd, mae ei haddysgu’n taro'r nodyn perffaith, fel bod y gynulleidfa'n deall deunydd cymhleth yn rhwydd. Mae hi'n hynod o boblogaidd gyda'r myfyrwyr, ac yn gydweithiwr brwdfrydig a chefnogol. Pob lwc yn y rownd derfynol!"
Mae Dr Yhnell hefyd wedi'i henwebu yng nghategori 'Seren Newydd' Gwobrau Dathlu Rhagoriaeth Prifysgol Caerdydd eleni.
Fel academydd cenhedlaeth gyntaf, nod Dr Yhnell yw gwneud addysg uwch yn fwy cynhwysol, hygyrch a hwyliog. Mae wedi gweithio i greu addysgu arloesol a rhyngweithiol i fyfyrwyr, gan gynnwys "disgos bach", polau a sesiynau "draw-along". Mae Dr Yhnell yn ymrwymo i wella amrywiaeth mewn gwyddoniaeth; fel cynrychiolydd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Cymdeithas Niwrowyddorau Prydain, mae'n eiriol dros newid gwirioneddol ac ystyrlon.
Mae enwebiad Dr Yhnell yn dilyn llwyddiant Dr Nigel Francis, cyd-ddarlithydd yn Ysgol y Biowyddorau, a enillodd wobr Athro Biowyddoniaeth Addysg Uwch y Flwyddyn yr RSB yn 2021.
Mae cydnabyddiaeth i staff addysgu drwy wobrau o'r safon hon yn dyst i'r arferion dysgu ac addysgu arloesol yn Ysgol y Biowyddorau.
Cyhoeddir enillydd Athro Biowyddoniaeth Addysg Uwch y Flwyddyn yr RSB 2022 yng Nghyfarfod Blynyddol Penaethiaid Prifysgolion (HUBS) ddiwedd mis Mawrth - pob lwc Dr Yhnell!