Mae’r mwyafrif o bleidleiswyr Gadael yn gwrthod diddymu pwerau’r Senedd – Astudiaeth Etholiadol Cymru
22 Chwefror 2022
Mae’r mwyafrif o bleidleiswyr Gadael yng Nghymru yn credu na ddylai Brexit gael ei ddefnyddio i dynnu pwerau oddi ar y Senedd, yn ôl canfyddiadau ymchwilwyr yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd.
Wrth ysgrifennu mewn adroddiad Gwleidyddiaeth Brydeinig ar ôl Brexit ar gyfer y DG mewn Ewrop sy’n Newid, defnyddiodd yr academyddion ddata Astudiaeth Etholiad Cymru (WES) i ddangos bod 52% o bleidleiswyr Gadael, 88% o bleidleiswyr Aros, a 71% o etholwyr Cymru ar y cyfan yn gwrthod yr awgrym bod “Llywodraeth y DG yn iawn i dynnu pwerau oddi ar y Senedd os oes angen er mwyn gwneud y mwyaf o fuddion Brexit”.
Mae’r data’n cadarnhau nad oedd cysylltiad sylfaenol rhwng y bleidlais Gadael yng Nghymru yn refferendwm 2016 ac amheuaeth ynghylch datganoli, yn ôl yr awduron Richard Wyn Jones, Jac Larner a Daniel Wincott.
Cafodd y canfyddiad hwn – nad yw pleidleisio dros Adael ac amheuaeth ynghylch datganoli yn gydgysylltiedig – ei ailadrodd yn etholiadau’r Senedd y llynedd, pan ddymchwelodd pleidiau gwrth-ddatganoli heb arwain at gynnydd cyfartal yng nghyfran y bleidlais i’r Ceidwadwyr. Roedd canfyddiadau blaenorol WES yn dangos bod Llafur Cymru wedi llwyddo i ddal gafael yng nghyfran fwy na’r disgwyl o’i phleidleiswyr Gadael ei hun.
Dywedodd Richard Wyn Jones:
“Mae data a gasglodd Astudiaeth Etholiad Cymru 2021 yn dangos bod mwyafrif sylweddol o etholwyr Cymru yn gwrthod unrhyw danseilio pwerau datganoledig yn enw Brexit. Mae’r farn hon yn cael ei rhannu hyd yn oed gan fwyafrif o bleidleiswyr Cymru sydd o blaid Gadael.
“Mae hyn yn codi cwestiynau pellgyrhaeddol i’r Ceidwadwyr Cymreig wrth iddyn nhw fabwysiadu safiad cynyddol amheus ynghylch datganoli. Er y gallai safiad o’r fath fod yn boblogaidd gyda’u sylfaen o actifwyr a’u cefnogaeth graidd eu hunain, mae perygl iddynt eu hymddieithrio ymhellach oddi wrth bleidleiswyr amhenderfynol yn ogystal â barn y mwyafrif yng Nghymru.”