MedaPhor, un o is-gwmnïau Prifysgol Caerdydd, mewn cytundeb pwysig â'r Unol Daleithiau
27 Ebrill 2016
Bydd efelychydd hyfforddiant uwchsain arloesol a grëwyd ym Mhrifysgol Caerdydd yn cael ei ddefnyddio gan Fwrdd Obstetreg a Gynaecoleg America (ABOG) yn ei holl arholiadau.
Mae'r cytundeb yn golygu y gallai'r ScanTrainer – a ddatblygwyd gan MedaPhor Group plc, un o is-gwmnïau Prifysgol Caerdydd - gael ei ddefnyddio fel adnodd arholi sgiliau uwchsain ymarferol mewn dros 2,000 o arholiadau ardystio obstetreg a gynaecoleg (OBGYN) a gaiff eu cynnal ledled yr Unol Daleithiau bob blwyddyn.
O ganlyniad i'r cytundeb tair blynedd, mae MedaPhor wedi codi £3.2m drwy werthu cyfranddaliadau ar Farchnad Buddsoddiadau Amgen Cyfnewidfa Stoc Llundain.
Mae dros 200 o ysbytai yn yr Unol Daleithiau yn cynnal rhaglenni preswyl OBGYN, ac mae cyfarwyddwyr MedaPhor yn credu y bydd yr ysbytai proffil uchel hyn yn dargedau allweddol ar gyfer systemau efelychu ScanTrainer dros y tair blynedd nesaf.
Dywedodd Stuart Gall, CEO Medaphor: "Rydym yn falch iawn o weld y gefnogaeth gadarn gan fuddsoddwyr presennol a newydd. Mae'r arian hwn a godwyd yn garreg filltir bwysig yn natblygiad y Grŵp, wrth i ni geisio cynyddu gwerthiant ein ScanTrainer blaenllaw o amgylch y byd. Bydd yr elw yn ein galluogi i fanteisio ar gyfleoedd cyffrous sydd ar gael i ni dyfu'r cynnyrch, yn arbennig o ganlyniad i'r cytundeb ag ABOG."
Dywedodd Andrew Satin, MD, Is-Lywydd ABOG: "Dewiswyd MedaPhor gan ABOG oherwydd pa mor realistig yw system ScanTrainer wrth efelychu'r profiad o roi sgan uwchsain, ynghyd ag ymrwymiad y cwmni i'r dechnoleg efelychu ddiweddaraf."
Mae ScanTrainer MedaPhor yn efelychydd hyfforddiant uwchsain rhithwir sy'n rhoi 'teimlad go iawn'. Mae'n llythrennol yn galluogi hyfforddeion, ar unrhyw lefel, i deimlo'r hyn maent yn ei weld ar sgrin y cyfrifiadur, er mwyn iddynt ddysgu'r holl sgiliau sganio uwchsain allweddol.
Mae'r efelychydd yn defnyddio sganiau go iawn gan gleifion, o fewn rhaglen hyfforddiant addysgol, i addysgu'r sgiliau sganio uwchsain craidd ac uwch, heb fod angen peiriant uwchsain na chlaf.
Mae MedaPhor Group Plc - a lansiwyd ar Farchnad Buddsoddiadau Amgen y DU yn 2014 - yn is-gwmni a sefydlwyd gan Brifysgol Caerdydd. Mae wedi’i lunio gan dîm o glinigwyr a gwyddonwyr cyfrifiadurol, a’u bwriad oedd adeiladu cwmni hyfforddiant uwchsain o’r radd flaenaf gyda rhagoriaeth addysgol wrth ei wraidd.