Ymchwil newydd yn defnyddio dysgu creadigol i wella ymatebion i drychineb
23 Chwefror 2022
Astudiaeth newydd yn cynnig golwg ar barodrwydd ar gyfer argyfwng trychineb ac ymateb iddo, drwy addysgu a grymuso dinasyddion i leihau risg rhaeadru a gwella parhad busnes.
Bu Dr Diana Contreras Mojica, Darlithydd yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd, yn profi strategaeth liniaru â'r nod o wella gallu'r boblogaeth i addasu os bydd ffyrdd yn methu yn sgil trychineb, yn ogystal â hyrwyddo arferion da wrth gynllunio ar gyfer argyfwng.
Mae'r ymchwil yn canolbwyntio ar addysgu pobl ifanc am nodweddion pob cam wrth adfer ar ôl trychineb, gyda phwyslais ar bwysigrwydd seilwaith ffyrdd fel asgwrn cefn cysylltedd unrhyw ddinas a'r llwybr ar gyfer dychwelyd at normalrwydd ar ôl daeargryn.
Bu’r ymchwil yn profi gweithgareddau creadigol gyda myfyrwyr ysgol uwchradd 11 i 15 oed yn Chile oedd yn seiliedig ar gwestiynau, trosiadau gyda phosau a modelau graddfa o gerbydau a pheiriannau adeiladu. Cynlluniwyd y gweithgareddau fel camau gweithredu i wella gwybodaeth y myfyrwyr am ddynameg pob cam yn dilyn trychineb.
Mae dychwelyd dinasoedd i normalrwydd ar ôl effaith ddinistriol trychineb yn broses gymhleth a hirdymor sy'n cynnwys sawl cam.
Daeth y syniad o ddefnyddio posau yn sgil gweithdai cynllunio trefol yn ymwneud â dysgu am ddefnydd tir drwy ddarnau gêm. Roedd y cyfranogwyr yn profi eu gallu i gynllunio a threfnu'r darnau er mwyn gallu gwerthfawrogi'r anawsterau wrth sicrhau ymdrechion adferol i ailadeiladu dinas.
Dangosodd yr ymchwil fod merched yn fwy ymwybodol o dechnegau diogelu yn ystod daeargrynfeydd na bechgyn. Ar y llaw arall, roedd gan fechgyn fwy o ddiddordeb mewn terminoleg a chymryd rhan mewn gweithgareddau penderfynu.
Mae'r canfyddiadau'n cefnogi cynnwys rheoli risg trychinebau mewn cwricwla ysgolion, yn enwedig defnyddio gweithgareddau creadigol a gemau i ddysgu plant a phobl ifanc am y risg i'r seilwaith critigol, effaith amgylcheddol, colledion economaidd, atal, parodrwydd, ymateb ac adferiad.
Rhaid i blant a phobl ifanc fod yn ymwybodol o effeithiau eilaidd eraill daeargryn y tu hwnt i dirlithriadau a thanau, fel ffrwydradau, gollyngiadau a cholledion. Dylai gweithgareddau hefyd bwysleisio pwysigrwydd ymgilio os ceir tswnami, yn enwedig mewn taleithiau arfordirol, a thanlinellu i blant a phobl ifanc y gall difrod i adeiladau yn ystod daeargrynfeydd arwain at anafiadau a phobl yn cael eu clwyfo.
Mae'r papur ar gael yn y Journal of Disaster Risk Reduction. Gellir ei gyrchu am ddim tan 5 Ebrill 2022.