Myfyrwyr yn ymateb yn weithredol i heriau'r amgylchedd
18 Chwefror 2022
Flwyddyn ar ôl lansio menter yr Her Fawr, mae ein myfyrwyr yn gwneud cynnydd cadarnhaol gyda'r gwaith a gychwynnwyd ganddynt mewn perthynas â'r amgylchedd a newid yn yr hinsawdd.
Ym mis Chwefror 2021, lansiodd Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth fenter yr Heriau Mawr ar-lein, oedd ar agor i holl fyfyrwyr y Gyfraith, Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol.
Roedd yr Heriau'n gyfle i feddwl a gweithio ar faterion yn y byd go iawn tra bod ein cyfres o gynlluniau Pro Bono wedi'u hatal oherwydd pandemig COVID-19 a'r cyfnodau clo dilynol.
Un o'r llwybrau a gynigiwyd gan y fenter oedd Her Fawr Newid yn yr Hinsawdd oedd yn wibdaith o gwmpas gwyddor newid yn yr hinsawdd, cyfraith ryngwladol, confensiynau a pholisi'r DU a Chymru.
Roedd yn gyfle i fyfyrwyr ymchwilio'r hyn roedden nhw'n meddwl oedd angen ei newid er mwyn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a pharatoi ar ei gyfer. Nododd y myfyrwyr ar y cynllun bedwar mater penodol mewn perthynas â Chymru gan eu gosod eu hunain mewn grwpiau ym meysydd trafnidiaeth, amaethyddiaeth, tai a dad-ddofi tir.
Dewisodd y grŵp dad-ddofi tir hyrwyddo seilwaith gwyrdd yng Nghymru, yn benodol arosfannau bysiau â tho gwyrdd addas i wenyn, a cheisiwyd sicrhau ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo seilwaith gwyrdd o'r fath ledled y wlad. Trefnodd y grŵp ddeiseb ffurfiol i Senedd Cymru a gyrhaeddodd y nifer angenrheidiol o lofnodion i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Deisebau. Cafodd y ddeiseb ymateb gan y Dirprwy Weinidog dros Newid yn yr Hinsawdd yng Nghymru, Lee Waters AS, ar ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i seilwaith gwyrdd, ac mae'r prosiect wedi ymateb i hwnnw.
Gwnaeth y grwpiau eraill hefyd gynnydd gyda'u dewis bynciau. Ysgrifennodd y grŵp tai at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar y pryd, Julie James AS, gyda'u syniadau ar draws amrywiaeth o faterion roedd y grŵp yn ystyried y gellid eu gwella ledled Cymru mewn perthynas â'r sector tenantiaid. Cyflwynodd y grŵp amaethyddiaeth ymateb manwl i ymgynghoriad Lywodraeth Cymru ar ddyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru oedd yn cyd-daro â'r Her a chyfarfu'r grŵp trafnidiaeth ag uwch weision sifil Llywodraeth Cymru i drafod eu pryderon.
Y semester hwn, mae'r fenter yn parhau gydag enw newydd, Prosiect yr Hinsawdd a'r Amgylchedd. Ar ôl treulio'r semester diwethaf yn edrych ar y paratoadau ar gyfer COP-26 yn Glasgow a'i effaith, eleni bydd y myfyrwyr yn edrych ar dri maes newydd - trydaneiddio trafnidiaeth yng Nghymru, sicrhau bod tir ar gael ar gyfer plannu coed cymunedol yng Nghymru a hwylustod ailddefnyddio ac ailgylchu deunydd pacio yng Nghymru - i weld pa newidiadau y gallai Cymru eu gwneud er mwyn gwella yn eu barn nhw.
Ar ôl cwblhau eu hymchwil a nodi lle gallai Cymru wneud yn well yn eu barn nhw - ac yn bwysicach, sut y gall hyn helpu Cymru i gyflawni'r newidiadau angenrheidiol i gyrraedd y targed sero net statudol erbyn 2050 - bydd y myfyrwyr yn dewis sut y byddant am ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a llunwyr penderfyniadau eraill dros y misoedd nesaf ac i'r flwyddyn nesaf.
Ymhlith y dewisiadau sy'n cael eu hystyried mae Deiseb Seneddol arall, tystiolaeth ysgrifenedig i Bwyllgor Seneddol, Cwestiwn Seneddol wedi'i osod yn ofalus neu sesiwn friffio i Grŵp Trawsbleidiol.
Dywedodd yr arbenigwr ar gyfraith amgylcheddol Guy Linley-Adams, sy'n goruchwylio'r prosiect, "Mae hwn wedi bod yn flas o brofiad yn y byd go iawn i'r myfyrwyr wrth ddilyn llwybrau gwleidyddol a deddfwriaethol i geisio ymateb mwy cadarn i heriau newid yn yr hinsawdd yng Nghymru. Mae'n glod mawr i'r myfyrwyr fod eu deiseb ffurfiol ar seilwaith gwyrdd wedi arwain at ystyriaeth ddifrifol i'r mater a godwyd ganddynt gyda'r Pwyllgor Deisebau. Rwy'n edrych ymlaen at gamau nesaf y prosiect a beth arall y gallwn ni ei gyflawni."