Mae Mis Cyflogadwyedd JOMEC ar waith
17 Chwefror 2022
![Smiling girl student wear wireless headphone study online with skype teacher](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0004/2606431/Employability-month.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae mis cyffrous o ddigwyddiadau gyrfaoedd ar-lein i fyfyrwyr israddedig wedi'i lansio fel y bydd ganddyn nhw fwy o syniad am y sectorau swyddi a'r gyrfaoedd sydd ar gael iddyn nhw ar ôl graddio.
Bydd y digwyddiadau, a drefnir ar y cyd gan yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant (JOMEC) a thîm Dyfodol Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr gael gwybod am y mathau o swyddi a fyddai'n siwtio eu diddordebau a'u cynlluniau gyrfaol.
Bwriad y digwyddiadau yw ychwanegu at yr ystod o gymorth o ran cyflogadwyedd sydd ar gael eisoes i fyfyrwyr drwy fodiwlau’r Ysgol sy'n canolbwyntio ar gyflogadwyedd.
Bydd pob digwyddiad yn edrych ar wahanol ddiwydiannau, gan gynnwys:
- Teledu, ffilm a radio
- Newyddiaduraeth
- Marchnata, Cysylltiadau Cyhoeddus a chyfathrebu
- Cyhoeddi
- Y diwydiannau creadigol
Dywedodd Dr Tom Allbeson, darlithydd mewn hanes diwylliannol a chyd-drefnydd y trafodaethau, "Mae ein myfyrwyr yn awyddus i sgwrsio am eu dyfodol ac mae sgyrsiau'r misoedd hyn yn ffordd arall iddyn nhw lywio a llunio eu cynlluniau."
![Myfyrwyr yn eistedd mewn man astudio agored ysgafn.](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0010/2608309/Centre_for_student_life.jpg?w=575&ar=16:9)
Mae tîm Dyfodol Myfyrwyr y Brifysgol yn cynnig gwasanaethau gyrfaol a chyflogadwyedd i fyfyrwyr ac yn gweithio ar y cyd ag Ysgolion academaidd, Undeb y Myfyrwyr a channoedd o recriwtwyr graddedigion bob blwyddyn.
Drwy fewnrwyd Prifysgol Caerdydd, gall myfyrwyr gyrchu llu o adnoddau, cofrestru ar gyfer digwyddiadau a threfnu apwyntiadau gyda chynghorwyr gyrfaol a chyflogadwyedd.
Dyma a ddywedodd Chris Barnes, cyd-drefnydd y trafodaethau a chynghorydd gyrfaol Dyfodol Myfyrwyr yn JOMEC, "Bydd y sgyrsiau hyn yn creu cyfleoedd newydd i'n myfyrwyr mewn sectorau na fydden nhw fel arall wedi'u hystyried o'r blaen efallai."
Diweddaru’ch gwybodaeth yn gyson
Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf a’r cyfleoedd rheolaidd gan Dyfodol Myfyrwyr:
- Twitter: CU Student Futures
- LinkedIn: CU Student Futures / Dyfodol Myfyrwyr CU