Ewch i’r prif gynnwys

Dau o gynfyfyrwyr Caerdydd yn chwalu record byd rasio ar draws Môr yr Iwerydd

17 Chwefror 2022

Mae dau ffrind a gyfarfu ym Mhrifysgol Caerdydd wedi gosod record byd newydd sef y ddwy fenyw cyflymaf i rwyfo ar draws Môr yr Iwerydd.

Fe wnaeth y cynfyfyrwyr o Gaerdydd, Jessica Oliver (BSc 2014) a Charlotte Harris (BA 2013) guro'r record byd blaenorol gan bum niwrnod ar gyfer pâr o fenywod er nad oedd ganddynt unrhyw brofiad blaenorol. Llwyddodd y tîm 'Wild Waves' i gwblhau Her Talisker Wisgi yr Iwerydd, gan rwyfo 3,000 o filltiroedd o La Gomera yn yr Ynysoedd Dedwydd i Harbwr Lloegr yn ynys Antigua yn y Caribî mewn dim ond 45 diwrnod, saith awr a 25 munud.

Cyfarfu'r pâr pan ymunodd Jessica, a astudiodd y Gwyddorau Biofeddygol, a Charlotte, a astudiodd Hanes, â Chlwb Hoci'r Brifysgol.

“Fe wnaethon ni gyfarfod ym Mhrifysgol Caerdydd ddeng mlynedd yn ôl ac rydyn ni wedi bod yn ffrindiau gorau ers hynny! Ein cyfnod gyda’n gilydd yng Nghaerdydd oedd rhai o flynyddoedd gorau ein bywyd ac rydyn ni'n aml yn siarad amdano. Rydym yn bendant mai ein cyfeillgarwch cryf a’n gwnaeth yn dîm anhygoel yn y cyfnod cyn ac yn ystod y rhwyfo ar draws Môr yr Iwerydd. Fe wnaethon ni weithio'n galed er mwyn ein hunain ond hefyd er mwyn ein gilydd, ac yn bwysicach fyth roeddem yn gofalu ar ôl ein gilydd er mwyn i’r antur fod mor hawdd â phosib."

Dechreuodd Jessica a Charlotte baratoi ar gyfer y ras ddwy flynedd yn ôl gan hyfforddi llawer yn ystod COVID-19.

Roedd yr her, a elwir yn aml yn ‘daith rwyfo galetaf y byd’, yn cynnwys ymdopi â thonnau 30 troedfedd, cwch yn troi drosodd, diffyg cwsg, gwres difrifol a phothelli. Ar ôl tua ugain niwrnod, doedd dim byrbrydau ar ôl ganddynt hyd yn oed, felly roedd y daith yn anoddach fyth.

“Heb unrhyw brofiad o rwyfo na’r cefnfor, rydyn ni wedi rhyfeddu ein bod ni wedi cwblhau’r her, heb sôn am osod record byd newydd … ac rydyn ni’n dal i fod yn ffrindiau er gwaethaf bod mewn cwch bach gyda’n gilydd am fisoedd ar y môr,” chwarddodd Charlotte. “Mae’n dangos eich bod yn gallu cyflawni unrhyw beth gydag ymdrech, sef ein harwyddair ers bod yn ffrindiau yn y brifysgol, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd yn helpu i ysbrydoli eraill.”

Curodd Jessica a Charlotte 35 o dimau eraill o bob rhan o’r byd yn eu cwch ‘Cosimo’. Roedd eu ffrindiau a'u teulu’n disgwyl amdanynt yn Antigua ar ôl eu taith fuddugoliaethus.

Rhannodd y pâr eu profiadau gyda chyd gynfyfyriwr o Brifysgol Caerdydd, Emma Barnett (PGDip 2007) ar Women's Hour ar BBC Radio 4.

Rhannu’r stori hon