Bydd academydd o Gaerdydd yn pennu datganiad meincnodi pwnc
16 Chwefror 2022
Penodwyd Dr Jonathan Gillard, o'r Ysgol Mathemateg, gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA) i'r Bwrdd Cynghori ar gyfer y Datganiad Meincnodi Mathemateg, Ystadegau ac Ymchwil Weithredol.
Mae Datganiadau Meincnodi Pwnc yn disgrifio natur yr astudiaeth a'r safonau academaidd a ddisgwylir gan raddedigion mewn meysydd pynciol penodol.
Maent yn dangos yr hyn y gellid disgwyl yn rhesymol i raddedigion ei wybod, ei wneud a'i ddeall ar ddiwedd eu hastudiaethau.
Mae’r Asiantaeth yn arwain y gwaith o ddatblygu Datganiadau Meincnodi Pwnc ac yn eu hadolygu ar sail gylchol i sicrhau eu bod yn adnodd defnyddiol a’u bod yn gallu hysbysu ystod o ddibenion - gan gynnwys bod yn bwyntiau cyfeirio wrth ddylunio, cyflwyno ac adolygu cyrsiau academaidd.
Er mwyn sicrhau bod adolygiadau'r Datganiadau Meincnodi Pwnc yn ystyried ystod amrywiol ac eang o ran deallusrwydd, barn a phrofiad ynghylch y meysydd pwnc dan ystyriaeth, mae gan bob maes pwnc sy'n cael ei adolygu ei grŵp cynghori ei hun sy'n cynnwys aelodau blaenllaw o'r gymuned academaidd, cyflogwyr, cyrff proffesiynol, statudol a rheoleiddiol (PSRB), a myfyrwyr.
Ar hyn o bryd, Dr Gillard yw Dirprwy Bennaeth yr Ysgol Mathemateg.
Ac yntau’n Ddarllenydd mewn Ystadegau, mae ei waith yn rhyngddisgyblaethol ac yn pontio sawl disgyblaeth mewn mathemateg gan ganolbwyntio ar broblemau diwydiannol sy'n effeithio ar y gymdeithas.
Mae hyn wedi arwain at gydweithio â'r GIG, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Airbus a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Wrth gael ei benodi i'r Bwrdd Cynghori, dyma a ddywedodd Dr Gillard: "Rwy'n hynod o falch o gael fy newis i weithio gyda chydweithwyr ledled y DU i bennu safonau a chynnwys sydd eu hangen ar gyfer yr holl raglenni gradd mathemateg israddedig ac ôl-raddedig. Mae'n wych cael llywio'r gwaith pwysig hwn sy'n cael cryn effaith genedlaethol, gan gryfhau ymhellach enw da Caerdydd wrth gyflwyno dysgu ac addysgu o safon uchel."
Dyma a ddywedodd Dr Ailsa Crum, Cyfarwyddwr Aelodaeth, Gwella Ansawdd a Safonau'r Asiantaeth: "Mae ymrwymiad ac ymroddiad ein grwpiau cynghori profiadol yn helpu i sicrhau bod Datganiadau Meincnodi Pwnc yn parhau i gael eu parchu gan y disgyblaethau. Rydyn ni’n ddiolchgar i bawb sydd wedi gwirfoddoli eu hamser i gefnogi'r gweithgarwch hynod bwysig hwn ac edrychwn ymlaen at weithio'n agos gyda nhw yn yr adolygiad o Ddatganiadau Meincnodi Pwnc eleni."