Mae dod i gysylltiad â microblastigau yn gwneud i heintiau bara’n hirach mewn pysgod dŵr croyw
15 Chwefror 2022
Ymchwil newydd yn tynnu sylw at raddfa effeithiau niweidiol llygredd plastig a chemegol ar rywogaethau dŵr croyw
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi dangos bod pysgod dŵr croyw gwyllt, sydd wedi’u heintio’n naturiol â llyngyr parasitig, yn dioddef heintiau am gyfnod sylweddol hirach pan fyddant yn dod i gysylltiad â microblastigau.
Dywedodd un o’r Prif awduron, Dr Numair Masud, o Ysgol y Biowyddorau:
"Mae heintiau parasitig yn ffactor allweddol sy'n effeithio ar les organebau dŵr croyw. Mae deall sut mae llygryddion, fel microblastigau, yn dylanwadu ar ymwrthedd i glefydau yn rhywbeth sy'n cael ei anwybyddu i raddau helaeth mewn astudiaethau ecolegol. Mae ein hymchwil ni'n taflu goleuni newydd ar y pwnc."
Er bod llygredd plastig yn bwnc llosg o ran y cefnfor, mae'n llai cyffredin clywed am ei effaith ar rywogaethau a chynefinoedd dŵr croyw, er bod y crynodiadau o ficroblastigau a geir mewn dŵr croyw fel arfer yn uwch o lawer na'r rhai a geir yn y môr.
Caiff microblastigau - gronynnau rhwng 1 µm a 5mm, sy'n cyrraedd yr amgylchedd fel gwastraff plastig - eu llyncu'n oddefol gan bysgod wrth i ddŵr fynd drwy eu tagellau. Mae'r gronynnau hefyd yn gweithredu fel sbyngau ar gyfer gwenwynau eraill, fel chwynladdwyr, a ddefnyddir yn helaeth mewn amaethyddiaeth ac sy'n draenio i afonydd a nentydd.
Datgelodd yr ymchwil hefyd fod Roundup®, un o'r chwynladdwyr mwyaf cyffredin drwy’r byd, yn lleihau'r baich parasitig mewn pysgod yn sylweddol, ond ar y llaw arall mae'n achosi cyfradd marwolaethau uchel ymhlith pysgod sydd eisoes wedi'u heintio gan barasitiaid. Roedd yn destun pryder bod y gwaith yn dangos bod niferoedd mawr o bysgod iach, gwyllt, heb eu heintio gan barasitiaid, yn marw ar ôl dod i gysylltiad â Roundup® a microblastigau.
Mae pysgod dŵr croyw yn wynebu'r hyn sydd wedi'i alw'n 'ddifodiant distaw'; ynghyd â'u cynefinoedd, mae rhywogaethau’n cael eu colli ar raddfa uwch o lawer na mathau eraill o ecosystemau. Mae'r gwaith, a gyhoeddir yn y cyfnodolyn Chemosphere, yn dangos pa mor niweidiol y gall y cyfuniad o ficroblastigau a llygryddion cemegol fod i fywyd gwyllt.
Dywedodd yr Athro Jo Cable, Deiliad Cadair mewn Parasitoleg a Phennaeth y Grŵp Organebau a'r Amgylchedd:
"Mae gennym ni lawer i'w ddeall am lygredd plastig mewn amgylcheddau dŵr croyw, gan gynnwys graddfa'r halogi, y mathau o blastigau a'u heffeithiau ymarferol.
At hynny, mae angen i ni ddatgysylltu effeithiau biolegol dod i gysylltiad â phlastig amrwd oddi wrth eu hychwanegion cemegol cysylltiedig, fel plastigyddion a sefydlogwyr thermol. Mae llawer o waith yn dal i'w wneud i geisio mynd i'r afael â'r cwestiynau hyn, ond mae'r ymchwil hon yn fan cychwyn da."