Partneriaeth yn sbarduno arloesedd ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd
8 Chwefror 2022
Mae partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) wedi cael rhagor o gyllid i hybu twf, arloesedd a gwydnwch.
Mae'r prosiect, sy'n datblygu ac yn cyflwyno Cronfa Her i adeiladu cyfoeth leol, yn un o 11 prosiect o’r fath ledled y DU sydd wedi cael cyllid gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) o dan gynllun peilot newydd, y Gronfa Gyflymu Leol (LAF).
Mae’r gronfa yn cynnig gwerth cyfanswm o bron £1m o ddyfarniadau i helpu ymchwilwyr i weithio mewn partneriaeth yn lleol ledled y DU.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi derbyn £50,000 i ddatblygu ei phartneriaeth bresennol gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cydweithio â Chanolfan Ymchwil Polisi Arloesedd (CIPR) y Brifysgol a'r Lab i ddatblygu a chyflwyno rhaglen Cronfa Her gwerth £10m.
Bydd y dyfarniad diweddaraf hwn yn caniatáu i'r prosiect gyflogi aelod staff bob chwe mis i fod yn swyddog cyswllt. Bydd yn dod o hyd i ymchwilwyr a phartneriaid busnes sy’n gallu mynd i'r afael ag anghenion y rheiny sydd â heriau yn y sector cyhoeddus sy'n cysylltu â CCR am gymorth.
Bydd cyllid sbarduno yn cael ei gynnig hefyd ar gyfer lleoliadau byr i ymchwilwyr yn y rhanbarth i annog timau cydweithredol a thraws-sefydliadol o Brifysgol Caerdydd, Metropolitan Caerdydd, a Phrifysgol De Cymru i ffurfio.
Medda’r Athro Claire Gorrara, Deon Ymchwil ac Arloesi (Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol): "Rydym yn falch iawn o gael y cyllid hwn sy’n datblygu ein gwaith ym maes arloesedd sy'n canolbwyntio ar heriau gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Bydd yn rhoi hwb i brosiectau sy'n mynd i'r afael â rhai o'r problemau cymdeithasol mwyaf brys yn ein rhanbarth. Bydd yn ariannu'r cysylltiadau a'r partneriaethau traws-sectoraidd sy'n hanfodol i ddatblygu atebion newydd i heriau a nodwyd gan gyrff y sector cyhoeddus."
Dywedodd Steven Hazleton, Arweinydd Cyfathrebu a Marchnata Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: "Rydym yn falch o gael y cyllid hwn i hyrwyddo'r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran cynnig atebion arloesol i heriau cymdeithasol allweddol a nodwyd mewn cyrff cyhoeddus. Bydd yr arian yn helpu cyrff cyhoeddus sydd â heriau i gydweithio yn y dyfodol a bydd yn cefnogi ac yn annog twf arloesedd ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd."
Meddai'r Athro Alison Park, Cadeirydd Gweithredol Dros Dro ESRC: "Rydym yn falch iawn o gyhoeddi cyllid ar gyfer 11 prosiect peilot fydd yn dangos ehangder a pherthnasedd ymchwil gwyddorau cymdeithasol i heriau sy’n seiliedig ar leoedd yn y DU. Mae'r prosiectau hyn yn dangos rôl hollbwysig cydweithio a chyd-greu wrth ddod â heriau lleol cymhleth ynghyd ag arbenigedd yn y gwyddorau gymdeithasol er mwyn gwneud gwahaniaeth mewn cymunedau lleol."
Bydd Y Lab a CIPR yn dod yn rhan o ganolfan sbarc|sparc Prifysgol Caerdydd fis nesaf. Cymuned arbenigol yw hon sy'n dod ag ymchwilwyr gwyddorau cymdeithasol ochr yn ochr â phartneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i greu, profi a meithrin syniadau newydd sy’n gallu helpu i adeiladu cymdeithas well.