Llongyfarchiadau x2 i Dr Emma Barnes
4 Chwefror 2022
Mae’n bleser gan CUREMeDE longyfarch Dr Emma Barnes ar gwblhau ei PhD yn ddiweddar.
Ymunodd Emma â thîm CUREMeDE am y tro cyntaf yn 2011 pan gafodd ei phenodi’n ymchwilydd. Yn y r yn gweithio rôl, bu’n gweithio ar brosiectau oedd yn ymwneud â darpariaeth gofal iechyd, y gweithlu ac addysg (yn enwedig ym maes deintyddiaeth). Yna, cymerodd seibiant yn 2018 i wneud ei PhD oedd yn canolbwyntio ar agweddau ar addysg iechyd y geg a hunanofal cleifion mewn cyd-destunau amddifadedd yn ne Cymru.
Cwblhaodd ei doethuriaeth yn llwyddiannus ac mae bellach wedi sicrhau swydd yn Ysgol Deintyddiaeth Caerdydd fel Cydymaith Ymchwil mewn Epidemioleg a Dadansoddi Data. Yn y tymor byr, mae hi’n parhau i weithio gyda CUREMeDE.
Mae'r rhain yn gyflawniadau nodedig, ac ni allem fod yn hapusach drosti. Rydym yn arbennig o falch o fod yn parhau â'n perthynas sydd wedi para dros 10 mlynedd.
Dywed Alison Bullock, goruchwyliwr Emma
Mae wedi bod yn bleser gweithio gydag Emma dros y 10 mlynedd diwethaf ac mae’r PhD yn brawf pellach o’i sgiliau ymchwil amlwg. Mae’n dipyn o gamp ei bod hi wedi cwblhau ei hastudiaethau doethuriaeth, ar amser, yn ystod y pandemig, ochr yn ochr ag arwain ar gyhoeddiadau pellach. Bydd hi’n gaffaeliad i’r Ysgol Deintyddiaeth lle bydd enw da Emma ym maes deintyddiaeth yn parhau i ffynnu.