Prosiect ymchwil Family VOICE
3 Chwefror 2022
Mae prosiect ymchwil Family VOICE wedi derbyn £1.2 miliwn gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd i ddatblygu dealltwriaeth o ansawdd ac effeithiolrwydd cynadledda grŵp teuluol.
Cynhadledd Grŵp Teuluol (CGT) yw cyfarfod lle mae'r teulu ehangach yn trafod plant sydd angen eu cefnogi a'u diogelu ac yn gwneud cynllun ar gyfer gofalu amdanyn nhw. Eu nod yw grymuso teuluoedd i wneud cynlluniau a phenderfyniadau drostynt eu hunain pan fo pryder am blentyn.
Bydd yr astudiaeth yn archwilio faint o CGTau sydd ar gael yng Nghymru a Lloegr, pa mor llwyddiannus ydynt, ac amrywiadau ledled y DU.
Bydd y prosiect pedair blynedd, sy’n dechrau ym mis Hydref 2021, yn cael ei arwain gan y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE) ym Mhrifysgol Caerdydd, a’r Athro Jonathan Scourfield.
Bydd y tîm yn gweithio ar y cyd â’r Ganolfan Treialon Ymchwil, Y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth ym maes Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer), Prifysgol Rhydychen, a’r Grŵp Hawliau’r Teulu.
Bydd ymchwilwyr yn gweithio'n agos gyda theuluoedd sydd wedi cael profiad o CGT, ac yn dilyn grŵp o brosiectau CGT sy’n mynd rhagddynt ledled Cymru a Lloegr.
Byddant hefyd yn cynnal adolygiad dwy flynedd o deuluoedd sydd wedi bod yn rhan o'r cynadleddau hyn, ac yn nodi unrhyw wahaniaethau yn eu defnydd o wasanaethau.