Angen newid diwylliant er mwyn i undeb weithio – Pwyllgor yr Arglwyddi
20 Ionawr 2022
"Mae angen newid diwylliant sylweddol yn Whitehall", yn ôl adroddiad newydd gan bwyllgor Tŷ'r Arglwyddi sy'n tynnu'n drwm ar dystiolaeth gan academyddion yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd.
Mae'r adroddiad yn gwneud defnydd helaeth o dystiolaeth lafar a ddarparu yr Athro Laura McAllister a'r Athro Richard Wyn Jones i ymchwiliad Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi i lywodraethu'r DG yn y dyfodol. Mae hefyd yn cyfeirio at dystiolaeth ysgrifenedig a ddarparu Hedydd Phylip Canolfan Llywodraethiant Cymru, Dr Huw Pritchard a Keith Bush QC.
Wrth alw am "barch a chydweithrediad i adeiladu Undeb cryfach ar gyfer yr 21ain ganrif", mae'r pwyllgor yn cynnig bod trefniadau newydd ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol yn cael eu hategu gan ddiwylliant newydd o bartneriaeth rhwng llywodraethau canolog a datganoledig y DG, gan gynnwys "diwedd ar y meddylfryd o'r brig i lawr (yn Whitehall)" a deialog mwy ystyrlon ynghylch a yw Senedd y DG yn deddfu mewn meysydd datganoledig a phryd.
Gan ganolbwyntio hefyd ar ymchwil a wnaed gan Richard Wyn Jones ac Ailsa Henderson o Gaeredin i Seisnigrwydd a lle Lloegr yn yr undeb, mae'r adroddiad yn argymell datblygu "fframwaith datganoli egwyddorol" ar gyfer y wlad honno, yn lle'r dull presennol sy'n seiliedig ar gytundebau.