Gwahoddiad i Ddigwyddiad Cyfnewid Gwybodaeth
1 Chwefror 2022
![Man giving thumbs up to another man on a computer conference call](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0011/2602559/pexels-vanessa-garcia-6326384.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Ydych chi’n gweithio mewn meddygfa deuluol yng Nghymru? A hoffech chi ddweud eich dweud am sut mae’r dirwedd gofal sylfaenol yn datblygu yng Nghymru?
Mae CUREMeDE ac AaGIC yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn digwyddiad cyfnewid gwybodaeth sy’n archwilio’r cymysgedd o sgiliau gofal sylfaenol yng Nghymru a lle fferyllwyr mewn meddygfeydd practis cyffredinol.
Rydym yn awyddus i glywed barn amrywiaeth o staff meddygfeydd teuluol, gan gynnwys staff clinigol a gweinyddol, y rhai sydd eisoes yn gweithio gyda fferyllydd mewn meddygfa deuluol, a'r rhai nad ydynt yn gwneud hynny.
Bydd hwn yn gyfle i ddod ynghyd â chydweithwyr i drafod mater sy'n berthnasol iawn i'r dirwedd gofal iechyd newidiol. Bydd trafodaethau yn llywio datblygiad deunyddiau a fydd ar gael i dimau meddygfeydd teuluol a fferyllwyr ledled Cymru.
Cynhelir y digwyddiadau yn y Saesneg drwy Microsoft Teams:
Ar gyfer meddygfeydd heb fferyllydd: Dydd Mawrth 22 Mawrth Dydd Iau 24 Mawrth Dydd Mawrth 29 Mawrth Dydd Iau 31 Mawrth amser cinio (12:00 – 13:00) gyda'r nos (19:00 - 20:00) | Ar gyfer meddygfeydd sydd â fferyllydd: Dydd Mawrth 5 Ebrill Dydd Iau 7 Ebrill Dydd Mawrth 12 Ebrill Dydd Iau 14 Ebrill amser cinio (12:00 – 13:00) gyda'r nos (19:00 - 20:00) |
Mae Timau Meddygfeydd Teuluol sydd heb Fferyllydd Meddygfa Deuluol ar hyn o bryd yn cynnwys:
| Mae Timau Meddygfeydd Teuluol sydd â Fferyllydd Meddygfa Deuluol yn cynnwys timau sydd â Fferyllwyr:
|
I gael rhagor o wybodaeth a chofrestru, cysylltwch â Sophie Bartlett.