50 Mlynedd ers Sul y Gwaed: Gweminar i fyfyrio ar etifeddiaeth y digwyddiad
31 Ionawr 2022
Bydd cyfweliad cyhoeddus gydag academyddion blaenllaw yn ystyried etifeddiaeth Sul y Gwad (Bloody Sunday), 50 mlynedd ar ôl y digwyddiadau a luniodd gwrs y gwrthdaro yng Ngogledd Iwerddon.
Bydd Canolfan Llywodraethiant Cymru ac Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd yn cynnal y digwyddiad ar Chwefror 23, pan fydd yr Athro Niall Ó Dochartaigh, Athro Gwyddorau Gwleidyddol ym Mhrifysgol Genedlaethol Iwerddon Galway (NUIG), a Dr Charlotte Barcat, Darlithydd Hanes Prydain ym Mhrifysgol Nantes (Ffrainc), yn cyflwyno ymchwil sy’n defnyddio archifau a chyfweliadau i daflu goleuni ar y digwyddiadau a'u hetifeddiaeth.
Bydd Dr Giada Lagana, Dr Jonathan Kirkup a Dr Thomas Leahy o Brifysgol Caerdydd yn llywio’r gweminar a’r cyfweliad cyhoeddus a fydd yn ystyried y cyd-destun gwleidyddol ac ymateb parhaus Llywodraeth y DG i Sul y Gwaed, ynghyd â’r goblygiadau o ran creu heddwch a democratiaeth gyfansoddiadol yng Ngogledd Iwerddon.
Mae'r digwyddiad yn agored i bawb sydd â diddordeb yn y pwnc, a gallwch chi ddod o hyd i’r manylion cofrestru drwy'r ddolen hon.