Ewch i’r prif gynnwys

Ysgoloriaethau newydd i fyfyrwyr Du Prydeinig sydd o dan anfantais

28 Ionawr 2022

Mae Prifysgol Caerdydd yn cydweithio â Sefydliad Ysgoloriaethau Cowrie (CSF) i gynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr Du Prydeinig sydd dan anfantais ariannol.

Bydd yr ysgoloriaeth gyntaf yn cael ei chynnig o fis Medi 2022 ac yn rhan o'r cydweithio, bydd y Brifysgol yn talu ffioedd dysgu a bydd y CSF yn ariannu’r costau cynnal a chadw a byw drwy roddwyr busnes a rhoddwyr unigol.

Bydd y Sefydliad hefyd yn cynnig mentora, modelau rôl a rhaglenni gwytnwch i’r myfyrwyr sy’n dal ysgoloriaeth, a hynny i sicrhau eu bod yn manteisio i'r eithaf ar eu cyfleoedd astudio.

Yn ôl yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Credwn fod addysg i bawb, ac rydyn ni’n gweithio'n galed i sicrhau bod myfyrwyr o ystod o gefndiroedd amrywiol yn gallu astudio gyda ni.

“Mae myfyrwyr Du Prydeinig yn cael eu tangynrychioli o hyd yn ein prifysgol. Mae sawl rheswm am hyn, ond un rhan o'r broblem gymhleth hwn yw'r gost ariannol.

“Felly, rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi ein partneriaeth gyda Sefydliad Ysgoloriaethau Cowrie i helpu i gael gwared ar un o'r rhwystrau mwyaf y mae myfyrwyr yn eu hwynebu wrth ystyried addysg uwch.

“Edrychwn ymlaen at groesawu ein myfyriwr cyntaf yn yr hydref a'u cefnogi i gyflawni a llwyddo.” Mae Prifysgol Caerdydd yn un o 17 o brifysgolion sy'n gweithio mewn partneriaeth â Sefydliad Ysgoloriaethau Cowrie sy'n anelu at ariannu hyd at 100 o fyfyrwyr Du Prydeinig dan anfantais drwy brifysgolion y DU yn ystod y degawd nesaf.

Mae'r Sefydliad yn gobeithio gwella cynhwysiant mewn addysg uwch a rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr sydd hwyrach yn wynebu rhwystrau ariannol.

Elusen gofrestredig yw Sefydliad Ysgoloriaethau Cowrie sy'n helpu myfyrwyr cymwys i fynd i ystod o brifysgolion ym Mhrydain, waeth pa bwnc y maen nhw’n penderfynu ei astudio.

Dyma a ddywedodd yr Athro Richard Oreffo, Athro Gwyddor Cyhyrysgerbydol ym Mhrifysgol Southampton a Sylfaenydd y Sefydliad: “Ni ddylai mynd i'r brifysgol gael ei gyfyngu oherwydd hil neu ddosbarth cymdeithasol, ond yn anffodus nid yw hyn yn wir i bawb yn ein cymdeithas.

“Rydyn ni wrth ein boddau gyda’r bartneriaeth newydd hon gyda Phrifysgol Caerdydd sy’n cynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr Du Prydeinig yn ystod y degawd nesaf. Cyfle yw hwn i helpu i weddnewid bywydau.”

Bydd tair ysgoloriaeth yn cael eu cynnig yn ystod y 10 mlynedd nesaf. Mae rhagor o wybodaeth am wneud cais i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd ar gael yma.

Rhannu’r stori hon