Ymchwil yn archwilio cysylltiadau rhwng anawsterau cyfeillgarwch, ADHD ac iselder
7 Chwefror 2022
Mae plant ag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) yn fwy tebygol o gael trafferth gyda chyfeillgarwch na phlant heb ADHD. Gall yr anawsterau cyfeillgarwch hyn gyfrif am ran o'r cysylltiad rhwng ADHD a'r risg ddilynol o iselder.
Mae ymchwilwyr o Ganolfan Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Wolfson wedi gwneud gwaith i ddeall yr effaith ar gyfeillgarwch person ifanc, gan nad yw'r mathau o anawsterau cyfeillgarwch a allai gyfrannu at y cysylltiad rhwng ADHD ac iselder yn glir. Bu'r ymchwilwyr hefyd yn ystyried a all perthnasoedd pwysig eraill ym mywyd y plentyn, megis y berthynas â'i rieni, wrthbwyso rhai o effeithiau andwyol posibl anawsterau cyfeillgarwch.
Dywedodd Dr Victoria Powell, a arweiniodd y gwaith: “Fe edrychon ni ar dros 1,700 o bobl ifanc rhwng 11-12 oed mewn astudiaeth ysgolion uwchradd yn y DU. Aseswyd tair nodwedd allweddol o gyfeillgarwch – a oedd gan y plentyn ffrindiau, ansawdd y cyfeillgarwch, a nodweddion y plant yng ngrŵp cyfeillgarwch y plentyn.
“Fe brofon ni a oedd y nodweddion cyfeillgarwch hyn yn cyfryngu, neu’n cyfrannu at, y cysylltiad rhwng symptomau ADHD a raddiwyd gan athrawon a symptomau iselder a raddiwyd gan y bobl ifanc eu hunain saith mis yn ddiweddarach. Fe wnaethon ni hefyd brofi a oedd ansawdd y berthynas rhwng rhiant a phlentyn yn lleddfu unrhyw rai o effeithiau anawsterau cyfeillgarwch.”
Canfu’r ymchwil fod symptomau ADHD yn gysylltiedig â chael llai o ffrindiau, cyfeillgarwch o ansawdd gwaeth, a bod yn ffrindiau ag unigolion mwy aflonyddgar a llai cydweithredol. Roedd cael llai o ffrindiau a chyfeillgarwch o ansawdd gwaeth yn gysylltiedig â chynnydd mewn symptomau iselder.
Roedd ansawdd cyfeillgarwch yn gweithredu fel cyfryngwr ar gyfer y cysylltiad rhwng ADHD a symptomau iselder, lle'r oedd symptomau ADHD yn gysylltiedig ag ansawdd cyfeillgarwch gwaeth, a oedd yn ei dro yn gysylltiedig â chynnydd mewn symptomau iselder.
Roedd tystiolaeth hefyd, lle adroddai’r plentyn berthynas agosach gyda'i rieni, fod hyn yn lleihau rhywfaint o effaith negyddol ansawdd cyfeillgarwch gwael.
Casgliad Dr Powell oedd: "Gall ymyriadau sy’n canolbwyntio ar feithrin perthnasoedd o ansawdd da gyda ffrindiau a rhieni helpu i darfu ar y cysylltiad rhwng ADHD ac iselder.”
Gallwch weld yr astudiaeth “Ymchwilio i anawsterau cyfeillgarwch yn y llwybr o ADHD i symptomau iselder. A all y berthynas rhwng rhiant a phlentyn eu gwrthbwyso?” ar-lein.