Gwyrddio trefol 'ddim yn ateb i bob problem' o ran ymdrin â thywydd eithafol, yn ôl astudiaeth
26 Ionawr 2022
Mae gwyddonwyr wedi awgrymu nad yw gwyrddio trefol yn debygol o roi un ateb i fynd i'r afael â thywydd eithafol sy'n digwydd yn sgil newidiadau yn yr hinsawdd.
Mae tîm, dan arweiniad ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, wedi dangos na fydd y rhan fwyaf o ddinasoedd ledled y byd yn gallu lleihau achosion o dywydd hynod o boeth a llifogydd ar yr un pryd drwy gyflwyno strategaethau megis toeau gwyrdd, waliau byw, mannau trefol â llystyfiant a pharciau.
Wrth gyhoeddi ei ganfyddiadau heddiw yn y cyfnodolyn Nature Communications, mae'r tîm yn dangos bod y gallu sydd gan leoedd trefol gwyrdd i oeri neu leihau llifogydd yn dibynnu'n gryf ar hinsawdd gyfredol y ddinas dan sylw, a bod amddiffynfeydd rhag llifogydd yn debygol o fod yn fwy llwyddiannus mewn amgylcheddau crin, tra y bydd effeithiau oeri yn fwy tebygol mewn hinsoddau sy’n fwy llaith.
Mae gan ardaloedd trefol hinsawdd unigryw sydd â risgiau sylweddol, hyd yn oed yn fwy felly wrth i'r newid yn yr hinsawdd gynyddu tebygolrwydd a difrifoldeb digwyddiadau tywydd eithafol yn y dyfodol.
Gellir priodoli tywydd hynod o boeth yn ein dinasoedd i effaith yr ynys wres drefol (UHI) a achosir gan y ffaith bod cymaint o goncrit a dur sy'n amsugno ac yn cadw gwres, a'r diffyg oeri yn sgîl anweddu dŵr gan blanhigion. Mae llifogydd yn rhan o syndrom ffrydiau trefol (USS), pan fydd strwythurau a systemau'r ddinas yn effeithio'n negyddol ar y dŵr ffo sy’n mynd yn ôl yn naturiol i'r amgylchedd.
Er mwyn mynd i'r afael â'r problemau hyn, strategaeth a gynigir yn aml yw rhoi gwyrddio trefol ar waith yn ein dinasoedd ar ffurf toeau gwyrdd, waliau byw, lleoedd trefol â llystyfiant neu barciau.
Gall y mesurau hyn leihau effeithiau UHI a USS yn ein dinasoedd, ond ar ben hynny maen nhw’n gallu cynnal bywyd gwyllt lleol, lleihau llygredd a gwella lles cyffredinol poblogaethau lleol.
Yn ei astudiaeth, defnyddiodd y tîm allbynnau modelau hinsawdd byd-eang a gwybodaeth am dywydd o 175 o ddinasoedd ledled y byd sy’n rhychwantu 15 mlynedd o arsylwadau dyddiol rhwng 2000 a 2015.
Defnyddiwyd y data hwn ar y cyd â damcaniaethau a gymerwyd o briddeg i gyfrifo ymdreiddiad dŵr i briddoedd. Mae hyn yn gweithio fel sbwng i leihau’r dŵr ffo a’r dŵr sy’n cael ei anweddu gan blanhigion, a gall ysgogi'r effaith oeri a ddymunir.
"Canfu ein hymchwil nad yw gallu gwyrddio trefol i liniaru llifogydd lleol a gormod o wres yn digwydd yn awtomatig nac yn bosibl hyd yn oed mewn rhai ardaloedd," meddai prif awdur yr astudiaeth Dr Mark Cuthbert, o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd Prifysgol Caerdydd.
"Mae amodau hinsoddol lleol a rhanbarthol yn effeithio'n sylweddol ar allu priddoedd trefol a thyfiant planhigion i amddiffyn rhag llifogydd a gwres eithafol ar yr un pryd. Yn wir, mae ein canfyddiadau'n dangos na fydd gwyrddio trefol yn gallu lliniaru’r broses o oeri a llifogydd ar yr un pryd mewn llawer, os nad y rhan fwyaf, o ddinasoedd ledled y byd."
Canfu'r tîm hefyd ei bod yn bosibl y bydd yr amrywioldeb cynyddol o ran patrymau glaw oherwydd newidiadau yn yr hinsawdd yn lleihau perfformiad strwythurau gwyrdd teneuach, megis toeau gwyrdd, yn gyflymach o'u cymharu ag ardaloedd gwyrdd mwy eu maint sydd â phriddoedd a systemau gwraidd mwy trwchus.
Dywed y tîm fod yn rhaid i gynllunwyr trefol ystyried y pethau hyn er mwyn dod o hyd i'r ateb gorau ar gyfer pob dinas unigol, gan gydbwyso anghenion gwahanol perfformiad, cost a hyfywedd.
"Er nad yw gwyrddio trefol yn ateb i bob problem, mae ein canlyniadau'n dangos yr hyn sy'n bosibl wrth ddylunio dinasoedd y dyfodol," meddai Dr Cuthbert wrth gloi.
Arweiniwyd yr ymchwil gan Brifysgol Caerdydd ar y cyd â gwyddonwyr ym Mhrifysgol De Cymru Newydd, Sefydliad Technoleg Karlsruhe a Phrifysgol Nottingham Trent.