Sain Natur - Seinweddau ac Ymwybyddiaeth Amgylcheddol
25 Ionawr 2022
Prosiect rhyngddisgyblaethol yn astudio dangosydd cynnar o newid amgylcheddol, gan archwilio seiniau natur o Ramantiaeth i'r 1940au
Nod prosiect ymchwil newydd yw ymchwilio i gynrychiolaethau o sain naturiol a'i chysylltiadau â thwf ideolegau amgylcheddol a sefydliadau cadwraeth.
Sain Natur: Bydd Seinweddau ac Ymwybyddiaeth Amgylcheddol, 1750-1950 yn ystyried sut y caiff sain naturiol a thawelwch eu llunio mewn cyfnodau hanesyddol eraill a sut mae hynny'n parhau i ffurfio agweddau cyfoes at sain natur.
Yn y broses, bydd ymchwilwyr o Humboldt Universität zu Berlin a Phrifysgol Caerdydd yn creu methodoleg drosglwyddadwy ar gyfer meddwl sut mae ffenomena mor wibiol yn ffurfio ein dealltwriaeth o amgylchedd y gorffennol, y presennol a'r dyfodol.
Gan ganolbwyntio ar y cyfnod cyn bod modd recordio sain, nod y prosiect yw sefydlu hanes amgylcheddol sain, gan gysylltu cysyniadau ac ymagweddau o hanes gwyddoniaeth, astudiaethau sain, dyniaethau amgylcheddol a beirniadaeth lenyddol.
Bydd y prosiect tair blynedd yn rhychwantu dwy ganrif a chyd-destunau cenedlaethol yn Ewrop, ac yn dadlau bod rhan ganolog i'r canfyddiad a'r gynrychiolaeth ysgrifenedig o seiniau mewn lleoliadau naturiol wrth ddatblygu a meithrin ymwybyddiaeth amgylcheddol a disgwrs cadwraeth.
Bydd ymchwilwyr yn gweithio mewn cyfnodau penodol, gan ddechrau gyda dadansoddi rôl sain wrth sefydlu cadwraeth natur cyn troi at effaith cynrychiolaethau llenyddol o sain ar ymwybyddiaeth amgylcheddol. Eu nod yw datblygu methodolegau rhyngddisgyblaethol newydd i archwilio rôl hanesyddol sain wrth lunio cysyniadau o'r amgylchedd naturiol.
Mewn oes lle gwelir mai gweithgarwch dynol yw'r dylanwad pennaf ar ein hinsawdd a'r amgylchedd, mae'r prif ymchwilydd yr Athro Martin Willis ac ymgynghorydd y prosiect Dr Ja Castell yn esbonio perthnasedd ehangach y prosiect:
"Gan adeiladu ar ymchwil sy'n seiliedig ar gadwraeth gynnar, meddwl ecolegol modern a pharhad a diffyg parhad o ran Rhamantiaeth, bydd Sain Natur yn ehangu ein dealltwriaeth nid yn unig o sut mae sain natur yn cael ei deall a'i chyflwyno mewn oes a nodir gan drawsnewid amgylcheddol radical ond hefyd ei rôl wrth ddatblygu ymwybyddiaeth gynnar o newid amgylcheddol."
"Drwy ymchwilio'r ffyrdd y câi seiniau eu recordio a'u cyflwyno yn ysgrifenedig a sut roedden nhw'n ysgogi setiau penodol o emosiynau mewn darllenwyr cyn ac ers y recordiad ffonograffig cynharaf, ein nod yw cynnig ffyrdd arloesol o ddeall perthnasoedd dynol gyda natur a chanfyddiadau o newid."
Sain Natur: Seinweddau ac Ymwybyddiaeth Amgylcheddol 1750-1950 yn brosiect cydweithredol rhwng Prifysgol Caerdydd a Humboldt Universität zu Berlin, a gyllidir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau a Sefydliad Ymchwil yr Almaen.