Dr Clair Rowden wedi’i phenodi i swydd Is-Lywydd y Gymdeithas Gerddorol Frenhinol
25 Ionawr 2022
Mae Dr Clair Rowden, Darllenydd mewn Cerddoleg yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd, wedi’i phenodi i swydd Is-Lywydd y Gymdeithas Gerddorol Frenhinol, y corff proffesiynol ar gyfer cerddolegwyr a cherddorion academaidd yn y DU.
Pum mlynedd yw hyd y penodiad. Dr Rowden hefyd fydd Cadeirydd y Pwyllgor Digwyddiadau.
Bu Dr Rowden yn aelod o Gyngor a Phwyllgorau Chwilio a Gwobrau’r Gymdeithas rhwng 2011 a 2013. Gwnaeth drefnu cynhadledd flynyddol 2012 y Gymdeithas mewn cydweithrediad ag Opera Cenedlaethol Cymru.
Mae’r Gymdeithas yn cefnogi ac yn cynnal nifer o ddigwyddiadau bob blwyddyn, o gynadleddau blaenllaw i ddiwrnodau astudio, gweithdai a chyfarfodydd cangen. Mae’r Pwyllgor Digwyddiadau’n goruchwylio’r gwaith o drefnu grwpiau astudio. Mae hefyd yn gweithio’n agos gyda’r rhai sy’n trefnu digwyddiadau ac yn rhoi cymorth ariannol iddynt.
Wrth sôn am y penodiad, dywedodd Dr Rowden: “Drwy gydol fy ngyrfa, rwyf bob amser wedi ceisio cysylltu ymchwil, sefydliadau ac ymchwilwyr unigol â pherfformio a chynulleidfaoedd drwy drosglwyddo gwybodaeth ac ymgysylltu â phroffesiynau cerddorol.”
“A minnau’n Is Lywydd a Chadeirydd Pwyllgor Digwyddiadau’r Gymdeithas Gerddorol Frenhinol, fy nod yw hwyluso proses gyfnewid a chyfleu ym mha ffyrdd y gall ymchwil lywio, cefnogi a gwella gwaith ymarferwyr a phrofiadau cynulleidfaoedd. Drwy wneud hyn, gall y Gymdeithas gryfhau ei rôl yn llysgennad, yn eiriolwr ac yn hwylusydd a rhoi ystod eang o brofiadau academaidd, cerddorol a diwylliannol i gynulleidfaoedd a chymunedau amrywiol er mwyn datblygu gwybodaeth, celfyddyd, cyflogadwyedd, y gallu i addasu a lles.”
Bydd y Gymdeithas Gerddorol Frenhinol yn dathlu ei phen-blwydd yn 150 oed yn 2024. Bydd Dr Rowden yn mynd ati i sefydlu system lle gall pobl adael rhodd i’r sefydliad yn eu hewyllys ac yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau a chyhoeddiadau i ddathlu hanes cyfoethog y gymdeithas.