Rhyngrwyd hynod gyflym wedi arwain at ddirywiad mewn ymgysylltiad sifig a gwleidyddol, yn ôl ymchwil newydd.
25 Ionawr 2022
Gostyngodd y tebygolrwydd fod pobl yn cymryd rhan mewn gwaith cymunedol wrth i'r rhyngrwyd cyflym gael ei gyflwyno yn y DU, yn ôl yr ymchwil.
Defnyddiodd academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd (Tommaso Reggiani) -- mewn cydweithrediad ag ymchwilwyr yn KU Leuven (Mattia Nardotto), Canolfan Ymchwil ar y Cyd y Comisiwn Ewropeaidd (Andrea Geraci), a Phrifysgol Sapienza Rhufain (Fabio Sabatini) - set o ddata cymalog i gymharu ymddygiad aelwydydd cyn ac ar ôl i fand eang gael ei gyflwyno yn eu hardal.
Mae eu dadansoddiad, sy'n cwmpasu’r cyfnod rhwng 1997 a 2017, yn dangos bod byw 1.8km yn nes at gyfnewidfa leol, a meddu felly ar gyflymder cysylltu uwch, yn golygu bod pobl 4.7% yn llai tebygol o gymryd rhan mewn sefydliadau sifig.
I gymdeithasau gwirfoddoli, roedd yn golygu bod pobl 10.3% yn llai tebygol o gymryd rhan yn y sefydliadau hyn.
I bleidiau gwleidyddol, roedd pobl 19% yn llai tebygol o gymryd rhan oherwydd bod band eang ar gael.
Yn ôl cyfrifiadau, yn seiliedig ar sut mae poblogaethau wedi’u dosbarthu o amgylch hybiau’r rhwydwaith byd eang, yr awgrym yw bod byw yn agos i gyfnewidfa leol yn newid cyfranogiad cymdeithasol tua 450,000 o drigolion.
Dyma ddywedodd Dr Tommaso Reggiani, darlithydd mewn economeg yn Ysgol Busnes Caerdydd: “Yn gyffredinol, mae ein canlyniadau'n awgrymu bod rhyngrwyd band eang yn cymryd lle'r gweithgareddau sy'n cymryd amser, sef y rheiny sy'n canolbwyntio ar fynd ar drywydd lles pawb. Mae'r effaith yn ystadegol arwyddocaol ac yn sylweddol.
“Mae hwn yn ddarlun gwahanol i'r hyn a welson ni yn yr Almaen yn ystod y cyfnod hwn. Yn ystod y blynyddoedd pan roedd mwy byth o bobl yn dechrau defnyddio'r rhyngrwyd cyflym yno, cafwyd lefelau uwch o waith gwirfoddol ar gyfer cymdeithasau diwylliannol, chwaraeon neu hobïau, pobl yn cymryd rhan yn y rhain yn ogystal â gwaith di-dâl i bleidiau gwleidyddol, ac aelodaeth o sefydliadau dyngarol.
“Yn y DU -- o ystyried yr ystadegau disgrifiadol -- roedd pobl yn llawer mwy tebygol o ystyried y rhyngrwyd yn offeryn ar gyfer e-siopa, hapchwarae ar-lein a mathau eraill o adloniant preifat.”
Yn wahanol i'r effaith negyddol ar weithgareddau cymunedol, canfuwyd nad oedd band eang yn cael effaith sylweddol ar ddefnydd diwylliannol a pherthynas yr ymatebwyr â’u ffrindiau.
Ychwanegodd Dr Reggiani: “Mae angen ymchwil pellach a data mwy penodol arnom am y gweithgareddau y mae pobl yn eu gwneud ar-lein. Bydd hyn yn rhoi gwell dealltwriaeth i ni o effaith gymdeithasol y Rhyngrwyd cyflym yng nghyd-destun rôl gynyddol yr ychydig blatfformau cyfryngau cymdeithasol sy'n monopoleiddio trafodaethau ar-lein, megis Twitter a Facebook.”
Cyhoeddir y papur, “Broadband Internet and social capital” yn y Journal of Public Economics.