Gŵyl Blwyddyn Newydd Tsieineaidd Ar-lein i blant ysgol
19 Ionawr 2022

Bydd Blwyddyn y Teigr yn cyrraedd yn 2022, a hoffai’r tîm yn Sefydliad Confucius Caerdydd wahodd disgyblion i ymuno â’n dathliadau rhithwir.
Diwrnod y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd: 1 Chwefror 2022
Ar ddydd Mawrth 1 Chwefror, gall plant ysgol fwynhau blwyddyn newydd y lleuad gyda'n tiwtoriaid drwy sesiynau ar-lein rhyngweithiol byw ar-lein a sesiynau wedi'u recordio. Bydd y rhain yn cael eu dangos drwy gydol y dydd, a gall athrawon gofrestru ar gyfer y cyfan neu rai ohonynt. Yna byddwn yn e-bostio dolenni ar gyfer y sesiynau rydych wedi mynegi diddordeb ynddynt fel bod modd i chi eu ffrydio i'ch disgyblion ar y diwrnod.
Nodwch y bydd y plant yn cael cyfle i gyfathrebu â'r tiwtoriaid Tsieineaidd sy'n arwain y sesiynau byw gan ddefnyddio'r opsiwn Sgwrs. Bydd manylion am sut i wneud hyn yn cael eu hanfon drwy e-bost at yr athro dosbarth, ynghyd â'r dolenni, yn yr wythnos sy'n arwain at y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd.
Dim ond athrawon all gael mynediad i'r sesiynau ar 1 Chwefror i'w defnyddio yn y dosbarth gyda'u disgyblion, felly defnyddiwch gyfeiriad e-bost eich ysgol wrth gofrestru, os gwelwch yn dda. Os yw eich plentyn yn cael ei addysgu gartref, cysylltwch â'n Swyddog Prosiect Ysgolion Tsieina i drafod. Os ydych chi'n unigolyn sy'n dymuno cael mynediad i'r sesiynau hyn, darllenwch yr adran nesaf ar wythnos y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd.
Cofrestrwch ar gyfer sesiynau byw a sesiynau wedi'u recordio
Mae ein sesiynau Blwyddyn Newydd Tsieineaidd ar-lein yn agored i bob ysgol ledled Cymru. Byddwn yn eu cynnal drwy'r dydd ar 1 Chwefror, a bydd ysgolion hefyd yn cael cyfle i ddefnyddio'r fideos o 2 Chwefror ymlaen.
Mae'r amserlen ar gyfer 1 Chwefror fel a ganlyn:
Gall athrawon gofrestru ar gyfer y sesiynau hyn gan ddefnyddio'rffurflen hon.
Wythnos y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd: 2-4 Chwefror 2022
Caiff gweithgareddau 1 Chwefror eu lanlwytho i dudalennau adnoddau addysgol Prifysgol Caerdydd, a byddant ar gael i athrawon neu unigolion eu defnyddio o ddydd Mercher 2 Chwefror. Os hoffech gael gwybod pryd maent yn mynd yn fyw, cofrestrwch eich manylioncyswllt.
Nodwch y gallwch gofrestru ar gyfer yr opsiwn hwn os nad ydych yn athro neu'n athrawes, felly nid oes angen i chi ddefnyddio e-bost gwaith.
Mwy o adnoddau
Chinese New Year week: 2-4 February 2022
The activities from 1 February will be uploaded to Cardiff University’s educational resource pages and available for teachers or individuals to use from Wednesday 2 February. If you would like to know when they are going live, please register your contact details.
Please note that you can sign up for this option if you are not a teacher, therefore you do not need to use a work email.
More resources
