Mae gweithio mewn lleoedd ynysig yn gallu arwain at ddiwylliant o fwlio ymhlith cogyddion elît, yn ôl ymchwil
17 Ionawr 2022
Mae cyd-destunau gwaith yn gallu ysgogi bwlio, trais ac ymddygiad ymosodol ymhlith cogyddion sy'n cael eu cyflogi mewn bwytai ciniawa cain, yn ôl ymchwil gan Brifysgol Caerdydd.
Mae'r astudiaeth yn dangos y ffordd yr oedd cogyddion yn teimlo'n ynysig yn sgîl gweithio mewn ceginau caeedig a chuddiedig, gan arwain at y teimlad eu bod yn gallu ymddwyn mewn ffyrdd na fyddai'n bosibl mewn lleoedd eraill.
Bu'r tîm, o Ysgol Busnes Caerdydd, yn cyfweld â 47 o gogyddion a gyflogir mewn bwytai ciniawa cain â sêr Michelin ledled y byd.
Canfuwyd bod teimladau o unigrwydd yn gyffredin ymhlith cyfweleion a oedd wedi disgrifio’r ceginau yn lleoedd 'ar wahân' sy’n dieithrio pobl sy’n gweithio yno. Fodd bynnag, yn sgîl yr ynysu, canfuwyd hefyd fod ymdeimlad o gael eu rhyddhau rhag craffu allanol hefyd. Creodd y broses o ynysu y cyfleoedd i 'ymddwyn mewn ffordd wahanol', fel yr eglurodd un cogydd.
Bydysawd moesol gwahanol
Dywedodd y prif awdur Dr Robin Burrow: "Mae camymddwyn ymhlith cogyddion yn rhywbeth rydyn ni'n gwybod llawer amdano drwy wylio darllediadau ar y teledu a'r cyfryngau. Hyd yn hyn mae ymchwil wedi beio hyn ar ddiwylliannau sy'n cael eu rheoli gan ddynion a phwysau eithafol i wneud pethau'n gyflymach ac yn unol â'r safon uchaf bosibl.
Dywed y tîm fod eu hymchwil yn dangos sut y gall daearyddiaeth gweithle ddylanwadu ar ymddygiad.
Ychwanegodd Dr Burrow, Darlithydd mewn Rheolaeth ac Ymddygiad Sefydliadol yn Ysgol Busnes Caerdydd: "Mae pandemig COVID-19 wedi dangos sut y gall gweithio’n ynysig beri i bobl deimlo eu bod ar eu pennau eu hunain, yn isel eu hysbryd ac yn gorbryderu’n fawr iawn.
"Ond mae ein hymchwil hefyd yn datgelu effeithiau eraill sy’n llai adnabyddus. Canfuon ni fod modd profi’r broses o gael eich ynysu’n fath o ryddid rhag cael eich craffu, ac y gall ysbarduno’r teimlad y gellir gwneud pethau na fydden nhw'n bosibl fel arfer."
"Yng nghyd-destun y sector lletygarwch, mae ein canfyddiadau'n creu achos cryf dros ddwyn gweithleoedd cyfrinachol a chuddiedig – ceginau yn arbennig – i'r golwg. Yn yr awyr agored, mae modd gweld trais a bwlio, ac mae'n haws i'r tramgwyddwyr gael eu dwyn i gyfrif."
Er gwaethaf y peryglon galwedigaethol a nodwyd gan y cogyddion, nododd yr ymchwilwyr hefyd ymdeimlad cryf o gyfeillgarwch yn y gweithle gan y cyfweleion a gyflogwyd ar wahanol lefelau o statws ac ar draws y DU, Ewrop, Asia, Awstralia a Gogledd America.
Dyma a ddywedodd Mae’r Dr Carmela Bosangit, Uwch-ddarlithydd Marchnata yn Ysgol Busnes Caerdydd: "Yn aml, mae gweithleoedd modern yn aml yn lleoedd agored, hygyrch a hyblyg ond roedd y cogyddion y buon ni’n siarad â nhw yn teimlo eu bod yn perthyn i grŵp penodol yn sgîl y gwaith corfforol, llawn straen a chyflym y maen nhw’n ei wneud.
"Y teimlad hwn o gymuned oedd yn golygu bod ein cogyddion yn gallu parhau i fod yn gynhyrchiol ac yn ymroddedig iawn er gwaethaf yr amodau gwaith y maen nhw’n eu hwynebu sydd yn aml yn rhai caled iawn.
Cyhoeddir y papur ‘Where ‘The Rules Don’t Apply’: Organizational Isolation and Misbehaviour in Elite Kitchens', yng nghyfnodolyn y Journal of Management Studies.