Ffosiliau hynafol yn rhoi cipolwg ar y dyfodol
26 Ebrill 2016
Mae arbenigwyr o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd ymysg grŵp o ymchwilwyr yn y DU sydd, am y tro cyntaf erioed, wedi datgelu'r berthynas agos rhwng carbon deuocsid (CO2) a'r hinsawdd, yn ystod cyfnod o gynhesu byd-eang dwys tua 53 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Defnyddiodd y tîm ffosiliau hynafol o greaduriaid y môr i ddatblygu cofnodion newydd sy'n nodi'r lefelau o CO2 yn yr atmosffer yn ystod 'cyfnod Ëosen' – cyfnod rhwng 53 a 34 miliwn o flynyddoedd yn ôl a ddechreuodd gyda chynhesrwydd eithafol a, thrwy oeri graddol, ddaeth i ben wrth ffurfio'r llenni ia pegynol sy'n dal i fodoli heddiw.
Datgelodd dadansoddiad o'r ffosiliau bod lefelau CO2 wedi haneru bron, rhwng hinsawdd gynnes y cyfnod Ëosen cynnar a hinsawdd oerach y cyfnod Ëosen hwyr. Gallai felly esbonio'r rhan fwyaf o'r oeri a ddigwyddodd tua'r adeg yma.
Drwy ddarganfod sut gwnaeth yr hinsawdd ymateb i newid sylweddol yn y lefelau CO2 yn yr atmosffer yn y gorffennol, mae'r ymchwilwyr yn credu y gellir defnyddio'r canlyniadau i gael gwell dealltwriaeth o sut bydd y Ddaear yn ymateb i lefelau cynyddol o CO2 yn y dyfodol, yn wyneb cynnydd cyflym mewn allyriadau anthropogenig.
Daeth tîm y DU, sydd hefyd yn cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Southampton a Phrifysgol Bryste, at eu canfyddiadau drwy ddadansoddi gwaddodion cefnfor hynafol a oedd yn cynnwys ffosiliau o greaduriaid y môr.
Fforaminiffera yw enw'r ffosiliau hyn. Creaduriaid bychain y môr oeddent ar un adeg, a oedd yn byw yn agos i wyneb y cefnfor yn nghyfnod Ëosen. Mae eu cregyn wedi cofnodi cyfansoddiad cemegol y dŵr môr yr oeddent yn byw ynddo.
Drwy ddefnyddio technegau geocemegol, roedd y tîm yn defnyddio isotopau'r elfen boron yn y cregyn yn lle pH (mesur o asidedd), gan ddefnyddio hynny i ganfod lefelau CO2 yn yr atmosffer.
"Mae gan ffosiliau fforaminiffera gregyn hardd a chymhleth," meddai Dr Eleanor John, ymchwilydd ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Caerdydd, a phartner yn yr astudiaeth. "Gallwn nodi a gwahanu'r gwahanol rywogaethau, gan gynnwys, yn hanfodol, y rhai a oedd yn byw yn haen uchaf y cefnfor, lle rheolir y cemeg gan y CO2 yn yr atmosffer."
Dywedodd Dr Eleni Anagnostou, prif awdur yr astudiaeth ac ymchwilydd ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Southampton: "Mae hyn yn cadarnhau bod y byd Ëosen wir yn fyd tŷ gwydr. Y prif wahaniaeth rhwng y cyfnod hwnnw a'n byd ni heddiw yw'r lefel uwch o CO2. Mae'r gymhariaeth yn awgrymu nad yw ymateb tymheredd y Ddaear i lefelau CO2 sy'n newid yn dibynnu llawer ar ba mor gynnes yw'r hinsawdd yn gyffredinol, ac mae hefyd yn rhoi mwy o hyder i ni yn ein rhagfynegiadau ynglŷn â sut bydd yr hinsawdd yn cynhesu yn y dyfodol, yn wyneb cynnydd cyflym yn y lefelau o CO2 anthropogenig."
Cyhoeddwyd y canfyddiadau yng nghyfnodolyn Nature.