Materion iaith a chymdeithasol wedi'u cyfuno mewn gwerslyfr Tsieinëeg newydd
14 Ionawr 2022
Mae'r ail mewn cyfres o werslyfrau ar gyfer dysgwyr uwch Tsieinëeg wedi'i ysgrifennu ar y cyd gan ddarlithydd o’r Ysgol Ieithoedd Modern.
Y Darlithydd Tsieinëeg, Wei Shao, yw un o'r awduron y tu ôl i Social Perspective: An Intermediate-Advanced Chinese Course: Volume II. Wedi'i ysgrifennu ar y cyd â chyn-gydweithwyr Shao o Brifysgol Leeds, Yi Ning, Jing Fang, Zhengrong Yang ac Esther Tyldesley, mae'r llyfr newydd yn mynd i'r afael â bwlch critigol yn y farchnad ar gyfer dysgwyr Tsieinëeg. Ychydig iawn o brifysgolion sy'n cynnig Tsieinëeg ar lefel uwch ac o ganlyniad, mae'r rhan fwyaf o ddeunyddiau addysgu ar y farchnad wedi'u teilwra i lefelau dechreuwyr a chanolradd.
Y gobaith yw y bydd y llyfr, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2021, yn cyfrannu'n unigryw at y ffordd y mae iaith Tsieinëeg yn cael ei dysgu ar lefel uwch yn rhyngwladol drwy ddatblygu cymhwysedd iaith dysgwyr drwy astudio cysylltiad naturiol rhwng dysgu iaith Tsieinëeg a materion cymdeithasol Tsieineaidd cyfoes.
Fel yresboniaShao, "Ceir amrywiaeth o faterion cymdeithasol yn Tsieina, megis y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial a'r bwlch cynyddol rhwng y cyfoethog a'r tlawd, sydd wedi dod i’r amlwg oherwydd datblygiad economaidd cyflym y wlad. Mae ein gwerslyfr yn ymgorffori'r materion cyfoes hyn ac yn eu defnyddio fel ffordd o hwyluso dysgu iaith ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol yn yr ystafell ddosbarth."
Bydd darllenwyr y llyfr yn cael cyfle i ymgysylltu â thestunau gwreiddiol, modern Tsieinëeg sydd wedi'u cynllunio i hwyluso darllen, ysgrifennu, trafod, gwaith grŵp a myfyrio beirniadol. Esbonnir pwyntiau gramadegol allweddol megis cydleoliadau, patrymau lleferydd ac idiomau hefyd.
Defnyddir y gyfrol gyntaf o Social Perspectuve: An Intermediate-Advanced Chinese Course (a gyhoeddwyd ym mis Mai 2021) fel y gwerslyfr craidd ar gyfer modiwl iaith blwyddyn olaf rhaglenni BA Tsieinëeg a BA Tsieinëeg Modern yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ac mae wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan fyfyrwyr ynghylch ei gynnwys diddorol.
Wrth siarad am y llyfrau, dywedodd Shao, "Rwyf wrth fy modd bod dwy gyfrol y gyfres gwerslyfrau ar gael o'r diwedd ar y farchnad ryngwladol. Gobeithio y byddant yn adnodd gwerthfawr i gydweithwyr a myfyrwyr yma yn y DU a thramor."
Ar hyn o bryd mae Shao yn gweithio ar lyfr mewn cydweithrediad â'i gyn-gydweithwyr yn y Brifysgol Agored. Nod Developing Online Language Pedagogies yw rhoi cyngor addysgeg cadarn sy'n seiliedig ar ymchwil i ymarferwyr ac enghreifftiau o brofiad addysgu ar-lein realistig ar ôl cyflwyno dysgu ar-lein yn ystod pandemig COVID-19.