Diffygion yn ymrwymiadau hinsawdd awdurdodau lleol Cymru, yn ôl adroddiad
16 Chwefror 2022
Mae angen i awdurdodau lleol yng Nghymru weithredu ar fwy o frys er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, yn ôl adroddiad dan arweiniad Prifysgol Caerdydd.
Mae'r data'n datgelu bod 16 o’r 22 o gynghorau yng Nghymru wedi gwneud datganiadau am argyfwng yr hinsawdd, tra bod y chwech arall yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i gael sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030.
Cynhaliodd Rebecca Hearne, myfyrwraig LLM yn ei blwyddyn olaf, yr ymchwil i gynghorau yng Nghymru dan oruchwyliaeth yr Athro Ben Pontin o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd. Mae'r astudiaeth Gymreig wedi bwydo i mewn i adroddiad Sefydliad Cyfraith yr Amgylchedd (ELF) ar gyfer y DU gyfan.
Adolygodd y prosiect y camau sy'n cael eu cymryd gan awdurdodau lleol yn dilyn eu datganiadau bod argyfwng hinsawdd - cyhoeddiadau gan lywodraethau a sefydliadau bod angen gweithredu ar frys i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a'i effeithiau na ellir o bosibl eu gwrthdroi.
Daeth i’r amlwg bod gan 20 o awdurdodau lleol gynlluniau gweithredu sy'n amlinellu sut y byddant yn mynd i'r afael â heriau sy'n ymwneud â'r hinsawdd.
Fodd bynnag, ni chafwyd unrhyw ymatebion i geisiadau am ragor o wybodaeth. Ni chafodd ceisiadau dilynol yn ymwneud â Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (ELF) eu hateb ychwaith. Y rhain yw’r rheoliadau sy'n gorfodi awdurdodau cyhoeddus i wneud yn siŵr bod gwybodaeth amgylcheddol ar gael ac yn hygyrch i'r cyhoedd.
Dywedodd Rebecca, a gwblhaodd yr ymchwil yn rhan o'i thraethawd hir LLM: "Roedd yn galonogol canfod bod gan y mwyafrif llethol o gynghorau ryw fath o agenda Argyfwng Hinsawdd. Fodd bynnag, nid oedd yn bosibl gweld beth yn union oedd hwn na chael trafodaeth ystyrlon ag unrhyw un o'r cynghorau ledled Cymru.
"Gallai cynghorau fod yn fwy tryloyw a chydweithredol gyda sefydliadau eraill - megis y rhai yn y sector addysg - ynglŷn â beth yw eu cynlluniau a sut maen nhw'n bwriadu cyflawni eu nodau.
"Pe bydden nhw'n gwneud hynny, gallai gynnig cyfleoedd i weithio ar y cyd ac mewn ffyrdd arloesol.”
Cynhaliwyd yr ymchwil drwy rwydwaith ELF o glinigau polisïau mewn prifysgolion. Mae’r rhwydwaith yn cynnwys wyth prifysgol ac aelodau o Weithgor Myfyrwyr UKELA yn ymchwilio i wahanol ranbarthau'r DU.
Ychwanegodd yr Athro Pontin, arbenigwr mewn cyfraith amgylcheddol: "Mae cynghorau lleol yng Nghymru yn ymateb yn gadarnhaol i'r newid yn yr hinsawdd gan fod cyfran uwch wedi datgan Argyfwng Hinsawdd nag yn unman arall yn y DU.
"Fodd bynnag, gallai’r cynghorau fod yn llawer mwy agored o ran beth maen nhw'n bwriadu ei wneud nesaf a pha gymorth sydd ei angen arnyn nhw i droi geiriau yn gamau.
"Gyda lwc, gall y bartneriaeth hon rhwng Prifysgol Caerdydd a Sefydliad y Gyfraith Amgylcheddol symud pethau ymlaen ar frys."
Ar y cyfan, adolygwyd 376 o awdurdodau lleol, ac roedd tua 79% wedi gwneud Datganiad.
Dywedodd Tom Brenan, Cyd-gyfarwyddwr Gweithredol ELF a Phennaeth Addysg a Pholisi, a gydlynodd y prosiect: "Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd eisoes wedi tynnu sylw at bwysigrwydd ymgysylltu â'r cyhoedd yn y drafodaeth ar y newid yn yr hinsawdd yn ogystal â rôl allweddol awdurdodau lleol yn hyn o beth.
"Daeth tystiolaeth dda o ymgysylltu â'r cyhoedd ledled y wlad i’r amlwg yn ein hymchwil, ond mae angen llawer mwy o hyn."
Darllenwch yr adroddiad: ‘Local urgency on the Climate Emergency’.