Ymchwilydd ym maes catalysis yn ennill gwobr arbennig
17 Ionawr 2022
Mae cyn-ymchwilydd ym maes catalysis o Brifysgol Caerdydd, Dr Alexander O'Malley, wedi ennill gwobr fawreddog er cof am un o wyddonwyr mwyaf nodedig Cymru.
Gwnaeth Dr O'Malley, a oedd yn un o gymrodorion Ymddiriedolaeth Goffa Ramsay yn Sefydliad Catalysis Caerdydd, ennill Medal Syr John Meurig Thomas yng Nghynhadledd Aeaf Canolfan Catalysis y DU.
Mae Dr O'Malley, ym Mhrifysgol Caerfaddon bellach, wedi gwneud gwaith arloesol ar ddefnyddio niwtronau i ymchwilio i brosesau catalytig. Cafodd ei ddewis o restr o’r gwyddonwyr gorau ar ddechrau eu gyrfa yn y DU.
"Mae ennill Medal Syr John Meurig Thomas yn anrhydedd enfawr," meddai Dr O'Malley.
"Roedd Syr John yn ffigwr hynod o bwysig mewn nifer o feysydd. Y maes mwyaf perthnasol i mi oedd catalysis microhydraidd. Roeddwn yn ddigon ffodus i sicrhau cymrodoriaethau annibynnol, fel Cymrodoriaeth Ramsay tra oeddwn ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd y rhain yn hynod o bwysig i ddatblygu rhaglen ymchwil o’r fath.
"Roedd y rhyddid i ddilyn fy llwybrau ymchwil fy hun, ar y cyd â’r arbenigwyr gorau ym maes catalysis yn Sefydliad Catalysis Caerdydd, yn hanfodol i ddatblygu’n ymchwilydd mewn maes mor amrywiol, o safbwynt damcaniaethol ac arbrofol. Rwy'n falch iawn o fod wedi cynnal perthynas gref â Sefydliad Catalysis Caerdydd ers hynny, a bydd y cydweithio ffrwythlon yn parhau'n hir i'r dyfodol."
Roedd Syr John Meurig Thomas, a fu farw yn 2020, yn Athro Nodedig Anrhydeddus yn Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd, a hynny ers 2005. Ac yntau’n cael ei ystyried yn fyd eang yn un o'r ffigurau amlycaf ym maes gwyddoniaeth gatalytig yn ystod y ganrif ddiwethaf, roedd Syr John ar flaen y gad o ran llawer o’r technegau a'r cysyniadau sydd wedi ennill eu plwyf erbyn hyn yn y maes.
Mae Canolfan Catalysis y DU yn gonsortiwm o brifysgolion sy’n gwneud ymchwil catalysis dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Caerfaddon a Phrifysgol Manceinion.
Dywedodd yr Athro Chris Hardacre, Cyfarwyddwr Canolfan Catalysis y DU: “Mae Alex wedi gweithio'n agos gyda Chanolfan Catalysis y DU drwy gydol ei yrfa ymchwil, ac mae ei waith wedi dangos y manteision a'r datblygiadau y gellir eu sicrhau wrth weithio'n agos gyda'r cyfleusterau canolog. Llongyfarchiadau i Alex ar ennill y wobr haeddiannol hon."