Ewch i’r prif gynnwys

Cylchlythyr Chwarter 4 2021

17 Rhagfyr 2021

2021 celebration

Uchafbwyntiau 2021

Ymhlith ein huchafbwyntiau yn 2021 mae cadw ein hardystiad ISO 9001, cael ein hail-achredu ar gyfer Ymarfer Labordy Clinigol Da (GCLP), ymgymryd ag ystod eang o waith gwasanaeth a reolir, ac ychwanegu dwy dechnoleg newydd at ein gwasanaeth.
Darllenwch ymlaen i gael rhagor o wybodaeth!

Technolegau newydd y Gwasanaethau Biotechnoleg Canolog

Mae ein BD FACSymphony™ A3 Cell Analyzer wedi'i osod ac yn barod i'w ddefnyddio. Mae'r offeryn pwerus hwn yn cynnig 30 paramedr ar draws pum laser, sy’n galluogi’r defnydd o lifynnau newydd â nodweddion disgleirdeb a gorlif gwell. Mae’r gallu i ddatblygu paneli ar gyfer ffenoteipio’n ehangach, dadansoddi is-setiau cellog yn ddwysach a defnyddio paneli gwell sy’n fwy eglur yn galluogi ymchwilwyr i feithrin dealltwriaeth wyddonol ddyfnach. Cysylltwch â ni i drafod sut y gallwch ddefnyddio’r dechnoleg hon i ategu eich ymchwil.

Mae'r System Dadansoddi Nanostring nCounter bellach wedi'i gosod ac mae'r cysylltiadau allweddol wedi'u hyfforddi. Bydd y dechnoleg hon yn cael ei chynnig i chi drwy fynediad defnyddwyr ac fel gwasanaeth a reolir. Cadwch lygad ar wybodaeth am sesiynau y hyfforddi fydd yn cael eu cynnal cyn bo hir a chysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y dechnoleg gyffrous hon yn y cyfamser.

Rheoli Ansawdd

Drwy gwblhau archwiliad gwyliadwriaeth blynyddol ein cyfleuster yn llwyddiannus ym mis Mawrth 2021, rydym wedi cadw ein hardystiad ISO 9001. Mae hyn yn golygu bod ein system rheoli ansawdd yn parhau i ddangos ei gallu i gynnig gwasanaethau sy’n diwallu anghenion cwsmeriaid a rheoliadau’n gyson. Ni yw’r unig Gyfleuster Aml-graidd yn y DU sydd â’r achrediad hwn, sy’n cefnogi cwsmeriaid ym Mhrifysgol Caerdydd a’r tu hwnt iddi.

Yn dilyn archwiliad llwyddiannus o bell ym mis Gorffennaf, rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi cael ein hail-achredu tan fis Gorffennaf 2023 ar gyfer Ymarfer Labordy Clinigol Da (GCLP). Mae'r achrediad hwn yn ategu ein hardystiad ISO 9001:2015.

Edrych ymlaen at 2022...


Rydyn ni’n parhau i annog cwmnïau allanol ac ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd i gysylltu â ni am ein gwasanaethau a’n cynghorion ynghylch rheoli ansawdd.

Diolch i bob un ohonoch sydd wedi dod i'r llu o weminarau a'r gweithdai technegol a gynhaliwyd yn 2021. Mae wedi bod yn wych gweld cynifer yn cyfrannu at ein hamrywiaeth eang o ddigwyddiadau rhithwir gan gynnwys ein gweithdai Mynegi Genynnau, gweminarau cytometreg llif a digwyddiadau hyfforddi Biacore.

Byddwn yn parhau i drefnu cyrsiau, rhai am ddim a rhai ar sail adennill costau, i gefnogi ymchwilwyr gymaint ag y gallwn. Byddwn ni’n cyhoeddi manylion digwyddiadau i ddod ar ein gwefan a thrwy Twitter, a bydd llawer ohonyn nhw ar gael i ymchwilwyr mewnol ac allanol fel ei gilydd, megis yr un isod.

Hyfforddiant cytometreg llif


Bydd Dr Graham Bottley o InCytometry yn cynnal y gweminarau canlynol ar 14, 15 ac 16 Chwefror:

Cliciwch ar y dolenni uchod am fwy o fanylion ac i gofrestru.

Bydd angen talu £25 i fynd i’r gweminarau hyn i dalu'r costau (anfonebir yn ddiweddarach). Cofiwch fod ymgynghoriaeth un i un gan InCytometry i ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn parhau i fod yn rhad ac am ddim. Cysylltwch â Graham yn uniongyrchol am gymorth cytometreg llif.

Gweithdy Gwybodeg RNAseq

Bydd Dr Sumukh Deshpande yn cynnal gweithdy RNAseq dros gyfnod o bedwar diwrnod ar 7, 8, 10 a 11 Chwefror ar gyfer ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd. Mae'r gweithdy Gwybodeg RNAseq hwn yn addas ar gyfer biolegwyr sydd DDIM â sgiliau cyfrifiadurol. Bydd y gweithdy yn addysgu'r broses gyfan, o'r ffeiliau a roddir gan y cyfleuster dilyniannu, i restrau genynnau o enynnau mynegiant gwahaniaethol.

Bydd y cwrs hwn yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb ar safle'r Mynydd Bychan a chodir tâl o £150 i dalu'r costau.

Cliciwch yma i wneud cais i ymuno â'r cwrs hwn.

Diogelu a masnacheiddio canlyniadau eich ymchwil

Cliciwch yma i wylio gweminar addysgiadol iawn gan Rhian North a Carly Bliss o Brifysgol Caerdydd a roddwyd i Gymdeithas Therapi Genynnau a Chelloedd Prydain (BSGCT) fis diwethaf. Dyna’r holl dermau cyfreithiol wedi eu hesbonio!

Rhannu’r stori hon

Gallwch gael diweddariadau chwarterol gan y Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog yn uniongyrchol i'ch mewnflwch.