Cyllid Lles y Gaeaf yn cael ei ddyfarnu i Bafiliwn Grange i gefnogi lles plant a phobl ifanc yn Grangetown.
6 Ionawr 2022
Ym mis Hydref 2021, lansiodd Caerdydd sy'n Dda i Blant y fenter 'Lles y Gaeaf', estyniad i’r ŵyl 'Gwên o Haf’ a gynhaliwyd ym Mhafiliwn Grange drwy gydol haf 2021.
Mae'r cyllid yn caniatáu cynnal gweithgareddau a digwyddiadau rhad ac am ddim ar draws cymunedau yng Nghaerdydd, gyda'r nod o roi gwên ar wynebau plant a phobl ifanc o bob cefndir yn ystod cyfnod mor heriol.
Gweithiodd Nirushan Sudarsan, Cyfarwyddwr y Fforwm Ieuenctid, myfyriwr israddedig Cyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd, a Llysgennad blaenorol y Porth Cymunedol, gyda Ali Abdi a Corey Smith o'r Porth Cymunedol ar gynnig a sicrhaodd £4,000 o gyllid.
Bydd yr arian yn caniatáu i sesiynau rhad ac am ddim cael eu cyflwyno o Bafiliwn Grange gan sefydliadau allanol a chynrychiolwyr Prifysgol Caerdydd sydd ag arbenigedd perthnasol mewn meysydd gan gynnwys celf, chwarae, gwaith ieuenctid a gweithgareddau STEM. Bydd y gweithgareddau'n cael eu datblygu gyda Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange, Cwmni Budd Cymunedol cofrestredig sydd wedi bod yn cynnal gweithgareddau wythnosol o Bafiliwn Grange gyda phlant a phobl ifanc o Grangetown. Mae amserlen Gweithgareddau Lles y Gaeaf yn cael ei datblygu ar hyn o bryd i’w chynnal dros gyfnod o 3 mis rhwng 12 Ionawr a 31 Mawrth 2022.