Digwyddiad cydweithredol ar-lein i'w gynnal ar les mewn ysgolion
17 Ionawr 2022
Bydd Canolfan Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Wolfson a Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc (T4CYP) yn cynnal digwyddiad ar-lein fis nesaf ar y ffordd orau i gefnogi ysgolion i wella lles pobl ifanc.
Bydd y prynhawn yn cynnwys cyflwyniadau gwyddonol gan ymchwilwyr iechyd meddwl ieuenctid, cyflwyniad i Fframwaith NEST, a'r cyfle i rannu dysgu ac arfer gorau ar draws y sectorau ymchwil, clinigol ac addysg.
Caiff y digwyddiad ei gyd-gadeirio gan Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, a Carol Shillabeer, Cadeirydd y Rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc (T4CYP).
Meddai'r Athro Frances Rice, cyd-gyfarwyddwr Canolfan Wolfson: “Rydym ni wrth ein bodd i fod yn gweithio gyda T4CYP ar y cyfle pwysig hwn i rannu arfer gorau a dysgu ar draws gwahanol sectorau.
"Mae sicrhau bod staff mewn ysgolion yn cael gwybodaeth ac yn deall yr hyn sy'n gweithio'n dda wrth gefnogi pobl ifanc gyda'u hiechyd meddwl a'u lles yn hanfodol.
"Bydd yr Athro Graham Moore, cyd-arweinydd ffrwd gwaith ymchwil ysgolion y ganolfan, a fi yn cyflwyno ar ddefnyddio systemau ysgol gyfan a pha ymyriadau iechyd meddwl all weithio orau i bobl ifanc mewn lleoliadau addysg."
Ledled Cymru, mae byrddau iechyd yn penodi timau o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol arbenigol i roi cymorth i ysgolion drwy Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed.
Ychwanegodd Dr Elizabeth Gregory, Cadeirydd Ffrwd Gwaith Cymorth Cynnar a Chymorth Gwell T4CYP:
"Rydym ni wrth ein bodd y bydd y digwyddiad hwn ar y cyd â Chanolfan Wolfson nid yn unig yn gyfle i glywed gan arbenigwyr ymchwil iechyd meddwl ieuenctid, ond hefyd yn gyfle i rannu enghreifftiau o arfer ledled Cymru."
Bydd y cyflwyniadau'n cynnwys:
- Yr Athro Graham Moore (Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc) - Newid systemau mewn ysgolion i gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc.
- Professor Frances Rice (Wolfson Centre for Young People's Mental Health) - Ymyriadau mewn ysgolion i gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc: beth yw'r dystiolaeth wyddonol gyfredol ar gyfer yr hyn sy'n gweithio a beth nad yw'n gweithio?
- Dr Elizabeth Gregory, (Cadeirydd Ffrwd Gwaith Cymorth Cynnar a Chymorth Gwell T4CYP) - Cyflwyniad i Fframwaith NEST a phrofiadau o'r fframwaith ar waith.
- Dr Gemma Burns (Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol, ABUHB) a Dr James Cording (Uwch Seicolegydd Addysg, ABUHB)– Dull Ysgol Gyfan Gwent o Ymdrin â Lles - Creu'r cyd-destun ar gyfer Newid System Gyfan.
Bydd fforwm agored hefyd i bawb sydd yn bresennol ar draws sectorau gwahanol gael rhannu arferion gorau a dysgu.
Gorffennodd yr Athro Rice: "Dyma'r digwyddiad cyntaf o lawer y bydd Canolfan Wolfson yn eu cynnal gyda phartneriaid cydweithredol.
Gellir cofrestru ar-lein nawr ar gyfer Lles mewn Ysgolion: rhannu dysgu i gefnogi pobl ifanc a chynhelir y digwyddiad ar 1 Chwefror 2022 rhwng 13.00 a 16.00pm.