Ewch i’r prif gynnwys

Darganfod meddyginiaethau newydd drwy gyfrwng y Gymraeg

4 Ionawr 2022

Neuron

Mae'r Gymraeg yn chwarae rhan ganolog yn yr ymchwil i feddyginiaethau newydd yng Nghaerdydd.

Mae hanner y staff yn y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd yn siaradwyr Cymraeg neu'n dysgu Cymraeg, gan ddod â'r Gymraeg i galon byd darganfod cyffuriau yng Nghymru.

Dyma a ddywedodd yr Athro Simon Ward, Cyfarwyddwr y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau: "Ni yw’r unig ganolfan darganfod meddyginiaethau o'i bath yng Nghymru ac mae'n bwysig bod gennym hunaniaeth Gymreig gref a’n bod yn meithrin y Gymraeg yn ein Sefydliad.

"Ers lansio’r Sefydliad, rydyn ni wedi bod yn awyddus i greu cyd-destunau sy'n caniatáu i wyddonwyr sy'n siarad Cymraeg gynnal eu hymchwil yn eu hiaith gyntaf, yn ogystal â chefnogi'r rheiny a hoffai ddysgu’r Gymraeg neu wella eu sgiliau iaith.

"Mae hanner y staff yn y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau yn siaradwyr Cymraeg neu bellach yn dysgu Cymraeg.

"Mae gennym fyfyriwr ôl-raddedig sy'n cwblhau ei PhD drwy gyfrwng y Gymraeg. Cafodd ei benodi gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i fod yn un o'u llysgenhadon ôl-raddedig, a’i dasg yw helpu i ddatblygu'r gymuned ôl-raddedig Gymraeg ei hiaith yng Nghymru a thu hwnt.

"Mae ein dysgwyr newydd, neu'r rheiny sydd eisiau gwella eu sgiliau, yn cymryd rhan yn ein sesiynau gloywi, lle maen nhw’n gallu ymarfer a dysgu oddi wrth ei gilydd. Mae hyn yn rhoi’r cyfle inni ddod â siaradwyr Cymraeg o bob lefel at ei gilydd i siarad am ein hymchwil.

"A minnau’n siaradwr Cymraeg, gwych o beth yw gweld cynifer o bobl yn ein Sefydliad sy’n ymwneud â'r iaith ac eisiau dysgu. A ninnau’n sefydliad darganfod cyffuriau yng nghanol prifddinas Cymru, roedd yn hanfodol bwysig inni fod y Gymraeg yn ganolog yn ein hymchwil."

Rhannu’r stori hon