Fideo: Rhagolwg ar Gyllideb Cymru 2021
22 Rhagfyr 2021
![Money and graph](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0010/1523665/GettyImages-683963174.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Cynhaliodd Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd ddigwyddiad briffio ar-lein a lansiodd adroddiad ar Ragolwg Cyllideb Cymru 2021.
Wrth i gyllideb newydd i Gymru gael ei chyhoeddi, gan nodi cynnydd pendant yn adnoddau ariannol Llywodraeth Cymru, eglurodd ymchwilwyr ar Ddadansoddi Cyllid Cymru y goblygiadau i wasanaethau cyhoeddus. Mae'r adroddiad wedi bwydo'n uniongyrchol i ddarllediadau'r BBC ar ddiwrnod y gyllideb ei hun.
Mae sleidiau cyflwyno a fideo o'r digwyddiad briffio bellach wedi'u rhyddhau.