Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi’i grybwyll yn y Cytundeb Cydweithio
1 Rhagfyr 2021
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0003/2593164/CCYDEng.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae Cytundeb Cydweithio newydd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn cynnwys ymrwymiad i weithio gyda Chanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd.
Mae'r cytundeb nodedig, a lofnodwyd yr wythnos hon gan y llywodraeth a Phlaid Cymru, yn cadarnhau y bydd diben craidd prosiect Dadansoddiad Cyllidol Cymru'r ganolfan yn parhau i gael ei gefnogi wrth i'r ddau bartner ddatgelu rhaglen waith a rennir am y tair blynedd nesaf.
Bydd y Cytundeb Cydweithio hefyd yn ategu gwaith parhaus y Comisiwn Cyfansoddiadol, sy'n cael ei gyd-gadeirio gan yr Athro Laura McAllister o Ganolfan Llywodraethiant Cymru. Mae'r cytundeb yn sicrhau y bydd y ganolfan yn parhau i fod wrth wraidd llunio polisïau yng Nghymru ar gyfer tymor presennol y Senedd.