Prosiect mannau gwyrdd a lles yn cipio gwobr flaenllaw
20 Rhagfyr 2021
Mae cynllun lle mae'r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol wedi cymryd rhan ynddo wedi ennill gwobr fawreddog Prosiect y Flwyddyn y Loteri Genedlaethol i Gymru yn 2021. Fe wnaeth prosiect Cadwraeth a Threftadaeth y Fali Werdd yn Abercynon ddod ar frig 1500 o sefydliadau eraill ac ennill y bleidlais gyhoeddus.
Nod y cynllun yw cryfhau sgiliau cyflogadwyedd a lles meddyliol yn yr hen bentref glofaol. Fel rhan o'r prosiect hwn, mae'r Ysgol Fferylliaeth yn cynllunio gardd "taith drwy amser" lle bydd ymwelwyr yn cerdded drwy rannau o lystyfiant a fyddai wedi bod yn frodorol yn y rhanbarth yn ystod gwahanol gyfnodau, o goetir hynafol i ddôl Geltaidd, i blanhigion a oedd yn cael eu trin gan y Rhufeiniaid, i blanhigion meddyginiaethol a astudiwyd gan Feddygon Myddfai yn yr oesoedd canol, i faes peillio’r 21ain Ganrif.
Ochr yn ochr â hyn bydd yr Ysgol yn mesur effeithiau'r mannau gwyllt ar les meddyliol cleifion er mwyn creu fframwaith rhagnodi gwyrdd ar gyfer meddygon. Er ein bod yn ymwybodol o’r cysylltiad rhwng natur ac iechyd, nid oes digon o ddata cadarn i gefnogi’r gydberthynas. Gyda set ddata fwy trwyadl bydd gan feddygon teulu gyfres newydd o driniaethau ar gyfer cleifion sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl.
Dywedodd yr Athro Les Baillie, "Rydym yn cefnogi'r gymuned yn Abercynon i greu amgylchedd lle gallant gysylltu â natur a gwella eu lles personol."
Gellir gweld fideo yn amlinellu'r prosiect YMA