Creu ein henebion ein hunain
20 Rhagfyr 2021
Beth mae Cylch yr Alarch yng Ngŵyl Glastonbury yn ei ddweud amdanom
Wrth i’r byrddydd gaeaf agosáu, mae arwyddocâd cylchoedd cerrig hynafol fel yr un yng Nghôr y Cewri yn parhau i gyfareddu pobl. Mae arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd – sy’n brofiadol o ran ymgysylltu â'r cyhoedd gyda gweithgareddau creadigol mewn gwyliau drwy Guerrilla Archaeology - wedi ymchwilio i'r hyn y gall Cylch yr Alarch yn Glastonbury, a grëwyd lai na 30 mlynedd yn ôl, ei ddweud wrthym am gerrig coffa modern.
Aeth yr Athro Bioarchaeoleg Jacqui Mulville a'r ymchwilydd annibynnol Dr Barbara Brayshay ati i weld beth mae'r cerrig coffa hyn yn ei olygu i’r rhai sy’n mynd i ŵyl enwocaf y byd. Mae gan safle gŵyl Glastonbury ei chwedlau a mythau ei hun sy'n seiliedig ar symbolaeth y pentref lleol, cyfres o leylinellau ac amryw seremonïau ac aliniadau symbolaidd. Ers 1992, mae'r safle wedi bod yn gartref i'w gylch cerrig ei hun. Mae'r cylch cerrig modern hwn wedi dod yn fan ymgynnull, lleoliad ar gyfer priodasau, a man dathlu a phrotestio lle mae pobl yn dod ynghyd, yn canu a chwarae, yn gwylio tân gwyllt ysblennydd, ac yn gwylio’r haul yn codi neu’n machlud.
Defnyddiodd y tîm dechnegau traddodiadol i recordio'r cylch cerrig, a thrwy sgyrsiau gyda Gŵyl Glastonbury bu modd i gynulleidfaoedd i archwilio'r cylch drwy lens archaeoleg gyfoes. Gall archwilio ymddygiad mewn cynulliadau torfol heddiw ddatgelu elfen sydd ar goll yn ein dealltwriaeth o gylchoedd cerrig, fel sy’n cael ei esbonio yn y fideo byr hwn.
Mae eu hymchwil i Gylch yr Alarch yn cynnig cipolwg diddorol iawn ar sut caiff syniadau ac arferion eu trosglwyddo yn y presennol a'r gorffennol, dealltwriaeth o safbwyntiau ehangach ar henebion, a sut y gall gwyliau ddatblygu eu tirweddau, defodau a seremonïau sanctaidd eu hunain y bydd pobl yn awyddus i'w cynnal a'u datblygu ymhellach.
Yn union fel ein cyndeidiau hynafol yn y digwyddiad chwedlonol hwnnw yng Nghôr y Cewri, cadarnhawyd bod pobl yn parhau i deimlo’n llon wrth ymgynnull gyda nifer fawr o bobl ac yn teimlo boddhad wrth greu ystyr a chwedlau, a bod ganddynt awydd i gysylltu a myfyrio yn yr ŵyl gerddoriaeth fodern hon.
Esboniodd yr Athro Mulville, sylfaenydd Guerrilla Archaeology:
"Fel archaeolegwyr, mae gennym ddiddordeb mawr mewn sut mae henebion yn cael eu creu a'u defnyddio. Gan weithio wrth ymyl Cylch yr Alarch a chynnig gweithdai ym mhentref y Crefftau Gwyrdd bob blwyddyn, cawson ni ein hysbrydoli i ymchwilio ymhellach iddo. Bob blwyddyn mae arwyddocâd y cylchoedd yn cael ei atgyfnerthu a'i ailddyfeisio gan gynulleidfa Glastonbury, ac yn y modd hwn mae'n parhau i fod yn ganolbwynt allweddol i’r ŵyl."
"Daeth ein hymchwil i'r casgliad bod y cylch cerrig yn creu ei ystyr ei hun drwy'r bobl sy'n ei ddefnyddio, wedi'i lywio'n rhannol gan ddealltwriaeth pobl o beth i'w wneud mewn cylch cerrig, ond gan adeiladu'n bennaf ar yr ymdeimlad o le a defodau sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod ei oes."
Cafodd eu canfyddiadau eu rhannu mewn Festivals: Monument Making, Mythologies and Memory, eu rhan nhw o’r digwyddiad rhithwir yn 2020, Glastonbury FestivalCHAT, dathliad wythnos o hyd o archaeoleg gyfoes a hanesyddol a gynhaliwyd ym mlwyddyn gyntaf pandemig COVID-19.
Mae'r ymchwil hefyd yn ymddangos fel pennod yn Festival Cultures: Mapping New Fields in the Arts and Social Sciences, llyfr newydd sy'n dwyn ynghyd ymchwil ryngddisgyblaethol sy'n archwilio’r hanner canrif diwethaf o wyliau celfyddydol a pherfformio modern fel mathau byd-eang o deithio, anheddu, dathlu, a threfnu cymdeithasol sydd â chyfalaf gwleidyddol sylweddol ac sy’n cael eu llywio gan werthoedd.
Mae Guerrilla Archaeology yn gasgliad o archaeolegwyr, gwyddonwyr ac artistiaid yng Nghaerdydd sy’n gweithio i annog y cyhoedd i feddwl am ein bywydau presennol a'n gobeithion ar gyfer y dyfodol drwy ymgysylltu â'r gorffennol.
Gwnaed prosiect Cylch yr Alarch yn bosibl drwy ganiatâd caredig y trefnwyr a chefnogaeth dechnegol y Cymrawd Ymchwil Anrhydeddus Andrew Stanford o Aerial Cam.