Ewch i’r prif gynnwys

Top 5 album in the Classical Charts

16 Rhagfyr 2021

Kenneth Hamilton posing on his Piano

Mae Albwm Liszt Newydd  Kenneth Hamilton wedi cyrraedd Rhif 5 yn Siartiau Clasurol Swyddogol y DU.

Aeth albwm diweddaraf yr Athro Kenneth Hamilton, recordiad CD dwbl o waith Liszt, o'r enw Death and Transfiguration, yn syth i rif 5 yn Siartiau Clasurol Swyddogol y DU Disgrifiwyd yr albwm gan Andrew Clements yn The Guardian yn ‘’rhyddhaol ac adfywiol”.

Mae'r albwm, a ryddhawyd ar 26 Tachwedd, yn ‘’gyfuniad o waith sy'n trin a thrafod cariad, marwolaeth a gweddnewidiad, cof a hiraeth’’. Mae'r albwm hwn wedi cael canmoliaeth feirniadol debyg i waith blaenorol yr Athro Hamilton, gyda Clements o’r Guardian yn nodi:

"Mae’r casgliad eang hwn o gerddoriaeth piano Liszt yn cwrdd â’i heriau technegol gydag uniongyrchedd ac eglurder ... Megis yn nisgiau cynharach Hamilton - ei recordiadau o waith piano Ronald Stevenson yn arbennig - ceir y teimlad mai'r gerddoriaeth sydd bwysicaf, a bod y perfformiadau yn cyflawni’r nod, a bod hynny'n rhyddhaol ac yn hollol adfywiol i'r gwrandäwr.”

Album cover: an image of an angel
Delwedd y clawr ar gyfer y prosiect: Max Nonnenbruch: Verklärung (Trawsnewidiad), 1899. Trwy garedigrwydd Amgueddfa Wiesbaden-Hessisches.

Mae'r corff o waith a ryddhawyd trwy Prima Facie Records ar gael i'w brynu mewn CD dwbl ac mae hefyd ar gael ar wasanaethau ffrydio.