Rwnau a phôs y crogdlws Eingl-Sacsonaidd
16 Rhagfyr 2021
Archaeolegydd o Gaerdydd yn trafod enw Eingl-Sacsonaidd astrus ar groes 1,000 oed a ddarganfuwyd yn ystod y pandemig
Mae crogdlws Eingl-Sacsonaidd a ddarganfuwyd yn 2020 ar lan afon yng ngogledd ddwyrain Lloegr wedi peri syndod i arbenigwyr ar y cyfnod, drwy ddehongliad arbenigol o'i arysgrif.
Mae hyd esgyll y rhan fwyaf o groesau Eingl-Sacsonaidd cynnar yn gyfartal, ond does dim un wedi'i chanfod o'r blaen gydag arysgrifau rwnig.
Mae'r crogdlws croes aur solet a ganfuwyd yn Northumberland yn dyddio o rhwng 700 a 900 OC, ac arno ceir rwnau'n cynnwys “Eadruf”, enw na welwyd mohono erioed o'r blaen mewn cofnodion Eingl-Sacsonaidd.
Cafodd rwnau - nodau o wyddor hynafol ag iddi sail Germaneg yn cyfleu ystyron arbennig - eu hendorri i lawr yr asgell heibio i'r croesfar, ac mae tair croes fach hefyd wedi'u cerfio i mewn.
Mae'r crogdlws anarferol modfedd o hyd yn cynnwys arysgrifau ar yr esgyll a'r droed. Yn ôl yr arbenigwyr cafodd y brig ei dyllu, gydag Eingl-Sacsoniaid yn ffeilio’r twll sylfaenol ar ôl i'r rwnau gael eu cerfio. Mae'n debygol fod yr addasiad ychwanegol hwn wedi'i wneud ar ôl colli'r ddolen wreiddiol ar frig y crogdlws.
Bu'r Cynllun Henebion Cludadwy yn ymgynghori ag arbenigwyr i archwilio'r groes a chyfieithu'r arysgrif ar ôl adroddiadau am y canfyddiad ger Berwick-upon-Tweed gan chwiliwr metel.
Yn ei adroddiad, eglura'r Athro Archaeoleg John Hines:
"Mae'n ymddangos yn debygol o led a siâp y endoriadau fod y tair croes a endorrwyd ar 'ben' y paladr ac ar y naill asgell a'r llall wedi'u torri'r un pryd â'r rwnau. Gellir adnabod chwech o'r rwnau, gan ddarllen o'r chwith i'r dde o 'droed' y paladr, gyda'r ddau gyntaf wedi'u drilio ger y toriad llydan.
"Yn aml mae arteffactau fel hyn wedi'u harysgrifio gydag enw personol yr unigolyn y byddai'r gwrthrych yn gysylltiedig ag ef (rhagdybir fel arfer mai'r perchennog fyddai hwn, oni nodir yn wahanol). Mae enwau personol Hen Saesneg sy'n dechrau ag Ead- ('hapusrwydd', 'lwc') yn gyffredin, ond yr unig ddau y gwyddys amdanyn nhw sydd ag ail elfen yn dechrau r- yw Eadred ac Eadric. Does dim elfen enw personol ruf wedi'i nodi mewn unrhyw iaith Germaneg, ac felly byddai Eadruf yn enw anhysbys ac yn ddirgelwch etymolegol. Mae'n bosibl ei fod yn fersiwn braidd yn gryptig o enw llawer mwy cyfarwydd, Eardwulf; roedd rhai dynion pwysig yn Northumbria gynnar â'r enw hwnnw."
Ar adeg creu'r crogdlws, roedd ardal Tweedmouth yn rhan o grŵp o ddaliadau ym meddiant Ynys Sanctaidd Lindisfarne. Er bod cofnodion yn bodoli yn nodi y gallai fod eglwys neu abaty yn y cyffiniau, does dim tystiolaeth archeolegol o unrhyw strwythur o'r Oesoedd Canol cynnar.
Hyd yma, y crogdlws yw'r gwrthrych Eingl-Sacsonaidd cynharaf i'w ddarganfod yn yr ardal, sy'n gynharach na'r unig ddarganfyddiad arall - ffitiad strap aloi-copr o ddiwedd y 10fed ganrif.
Mae'r Athro John Hines yn arbenigwr ar archaeoleg, llenyddiaeth ac ieithoedd gogledd Ewrop ganoloesol.