Ewch i’r prif gynnwys

Rheoli ym Mhrydain Fawr

16 Tachwedd 2021

Team of people sat around a table in a meeting room

Myfyrdodau ar reoli ym Mhrydain Fawr a'i berthynas â pherfformiad busnes a ffactorau eraill oedd y pwnc trafod yn Sesiwn Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd ar 16 Tachwedd 2021.

Bu Jakob Schneebacher o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn trafod yr hyn y gall Arolwg Rheoli a Disgwyliadau (MES) yr ONS ddweud wrthym am gyflwr arferion rheoli ym Mhrydain Fawr.

Yn ystod y sesiwn bu'n ystyried pynciau fel sut mae'r defnydd o arferion rheoli strwythuredig wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf, pa fathau o gwmnïau sydd wedi gwella fwyaf a sut mae cwmnïau sy'n cael eu rheoli'n well wedi ymdopi yn ystod y pandemig, gan ddefnyddio mewnwelediad o Arolwg Rheoli a Disgwyliadau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Dechreuodd: "Dros y 50 mlynedd ddiwethaf, mae'r gyfradd fuddsoddi mewn cyfalaf ffisegol diriaethol, adeiladau, peiriannau, wedi bod yn gostwng ar draws y byd datblygedig, ac yn fwy fyth mewn economïau sy'n dibynnu ar wasanaethau. Ar yr un pryd, mae buddsoddi mewn asedau anniriaethol, boed hynny’n ymchwil a datblygu a brandio, yn gyfalaf sefydliadol a ddehonglir yn eang neu'n asedau meddalwedd, wedi bod ar gynnydd. Efallai y byddai'r rhai yn y sector preifat wedi sylwi ar dueddiadau tebyg yn eu swyddfeydd.

"Fel rhan o'r duedd ehangach hon, mae cyfran fawr o swyddi yn y DU yn benodol i ryw raddau'n seiliedig ar reoli neu ar sgiliau trefnu. Mae tua 10% o swyddi'n bennaf yn rolau rheoli ac mae gan gyfanswm o 26% rywfaint o elfen reoli neu drefniadol."

Yna aeth yn ei flaen i archwilio dosbarthiad arferion rheoli ym Mhrydain Fawr ar draws gwahanol ddiwydiannau a rhanbarthau, a sut mae'r arferion hyn yn cysylltu â chanlyniadau busnes. Yn benodol, amlygodd waith diweddar yn ystyried sut mae busnesau'n gallu addasu mewn cyfnodau ansicr, a rôl arferion rheoli wrth arloesi.

"Yn yr Arolwg Rheoli a Disgwyliadau gofynnon ni i gwmnïau am yr arferion rheoli maen nhw'n eu defnyddio. Gofynnwyd 25 o gwestiynau ar arferion rheoli ar draws pedwar categori: gwelliant parhaus; targedau; arferion cyflogi; a defnydd o ddangosyddion perfformiad allweddol."

Yn gyffredinol canfu astudiaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod y gwelliant mwyaf o ran sgôr rheoli dros y pedair blynedd ddiwethaf i'w weld mewn cwmnïau llai oedd cyn hynny â llai o arferion rheoli wedi'u strwythuro'n dda, ond sydd bellach yn dal i fyny â gweddill poblogaeth busnes y DU.

Mentrau bach a chanolig oedd y busnesau hyn yn bennaf tra bo cwmnïau mwy o faint eisoes wedi mabwysiadu llawer o arferion rheoli strwythuredig yn ôl yn 2016.

Wrth fyfyrio ar wahaniaethau rhanbarthol, mae de-ddwyrain Lloegr a'r Alban yn arwain ar sgorau rheoli cyfartalog, gyda Chymru ar y pen arall. Ond o'u cydbwyso yn erbyn diwydiant a maint sefydliadau, roedd y gwahaniaethau rhanbarthol yn gymharol fach.

Yn gyffredinol canfu'r astudiaeth hefyd fod cwmnïau iau yn tueddu i gyflawni sgôr rheoli gwell na chwmnïau oedd yn hŷn, ond fel arall yn debyg.

Screenshot from presentation on management in Great Britain

Casglwyd y don ddiweddaraf o ddata yn 2020, oedd yn golygu bod modd ymchwilio a oedd arferion rheoli mwy strwythuredig yn gysylltiedig â phrofiadau cwmnïau yn ystod y pandemig, ac os felly, sut.

"O gael gwared ag effaith maint, oed, diwydiant a rhanbarth, fe welwn nad oes unrhyw gysylltiad o gwbl rhwng arferion rheoli a'r canlyniadau hyn yn 2019, felly does dim gwybodaeth ystadegol rhwng arferion rheoli a chyfraddau gweithio gartref, i reolwyr neu bobl nad ydyn nhw'n rheolwyr, a rhwng arferion rheoli a gwerthiant ar-lein. Ond yn 2020 fe welwn berthynas sy'n gadarnhaol ac yn arwyddocaol yn ystadegol.

"Mae hyn yn awgrymu nid yn unig bod cwmnïau sy'n cael eu rheoli'n well yn gwmnïau sy'n gwneud mwy o weithio gartref neu werthiant ar-lein beth bynnag, ond unwaith y bydd yr addasiadau hynny'n angenrheidiol, mae cwmnïau sy'n cael eu rheoli'n well i'w gweld yn addasu'n rhwyddach."

I orffen, edrychodd Jakob hefyd ar y cysylltiadau posibl rhwng rheoli ac arloesi, ac ymchwil a datblygu.

Gwyliwch recordiad llawn o'r digwyddiad.

Mae Sesiynau Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd yn rhwydwaith o ddigwyddiadau sy’n galluogi cysylltiadau busnes i gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil a'r datblygiadau diweddaraf gan bartneriaid diwydiannol.

Rhannu’r stori hon

Galluogi ein cysylltiadau ym maes busnes i gael gwybod rhagor gan bartneriaid ac ymarferwyr yn y diwydiant am yr ymchwil ddiweddaraf a datblygiadau allweddol.