Mae model gan Brifysgol Caerdydd yn mynd i'r afael â Thrais ar sail Rhyw yn Ne Affrica
14 Rhagfyr 2021
Bydd model sy'n defnyddio data iechyd brys i leoli trais yn fanwl a’i atal yn cael ei ddefnyddio i fynd i'r afael â digwyddiadau ar sail rhyw ym mhrifddinas De Affrica.
Mae Model Atal Trais Prifysgol Caerdydd yn llenwi bylchau yng ngwybodaeth yr heddlu drwy gasglu gwybodaeth ddienw mewn ysbytai gan bobl a anafwyd yn sgîl trais ac mae’n dod ag asiantaethau at ei gilydd i weithredu ar y mathau unigryw a chyfunol hyn o ddata.
"Y penderfyniad i weithredu'r model yn y brifddinas, Pretoria, yw'r tro cyntaf i'r system gael ei defnyddio i fynd i'r afael â thrais ar sail rhyw yn benodol" meddai'r llawfeddyg yr Athro Jonathan Shepherd, o Grŵp Ymchwil Trais (VRG) Prifysgol Caerdydd, sydd wedi arloesi o ran y model.
Mae Sefydliad Joe Slovo a Chymdeithas Llywodraeth Leol De Affrica yn ymuno â’i gilydd i roi’r model ar waith ledled De Affrica, gan ddechrau yn Tshwane, ardal fetropolitanaidd sy'n gartref i dri miliwn o bobl.
Dyma a ddywedodd Martin Dolny, Cyfarwyddwr Gweithredol y Sefydliad, a ymwelodd â Chaerdydd yn 2019: "Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol De Affrica a Sefydliad Joe Slovo yn cydweithio â sefydliadau eraill i gasglu a darparu data mwy manwl gywir ar drais ar sail rhyw er mwyn i gymunedau lleol wybod ble a phryd i gymryd camau ataliol ac i fonitro llwyddiant – 365 diwrnod o'r flwyddyn."
Dengys y dadansoddiadau mai dim ond 20% o achosion trais ar sail rhyw, a llai na hanner yr holl ddigwyddiadau treisgar, sy'n cael eu hadrodd i'r heddlu, meddai Mr Dolny.
"Mae hyn yn golygu nad oes gan awdurdodau lleol ddigon o ddealltwriaeth ynghylch ble a phryd y mae trais ar sail rhyw yn digwydd, gan gyfyngu ar eu gallu i ddatblygu ymyriadau llwyddiannus.
"Byddwn ni’n gweithio ar y cyd â datblygwyr apiau ffonau symudol yn Ne Affrica i hwyluso'r gwaith o gasglu data dienw yn barhaus ar lefel y dioddefwr / y gwyliwr / y clinig / yr ysgol / yr ysbyty / y gweithiwr gofal iechyd yn ogystal â chyfuno a 'mapio ar sail gwres' yr wybodaeth hon, megis yn achos Model Atal Trais Prifysgol Caerdydd sydd wedi cael ei ddefnyddio’n llwyddiannus yn fyd-eang."
Mae Model Caerdydd yn seiliedig ar ddata penodol a dienw a gesglir mewn cyfleusterau iechyd. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am leoliadau manwl trais gan gynnwys "yn eich cartref eich hun" ac "yng nghartref rhywun arall" yn ogystal â gwybodaeth am y berthynas rhwng y person a anafwyd a'r person (pobl) a ymosododd arno - yn ddieithryn, yn gydnabod, yn bartner ac ati.
Ychwanegodd yr Athro Shepherd: "Mae Model Caerdydd eisoes wedi bod ar waith yn rhannol yn Cape Town ond bydd yr ap newydd hwn yn Pretoria yn amhrisiadwy. Mae trais ar sail rhyw yn drais yn erbyn rhywun oherwydd normau rhyw a mathau anghyfartal o berthynas o safbwynt grym. Dynion yw'r troseddwyr yn bennaf - a menywod yn bennaf yw’r dioddefwyr. Gan ddefnyddio Data Model Prifysgol Caerdydd, gall Llywodraeth Leol a Chymunedau De Affrica gychwyn camau ymarferol sy'n lleihau'r tebygrwydd y bydd ail ymosodiad ar ddioddefwyr."
Sefydliad Joe Slovo, a sefydlwyd yn 2011, sydd y tu ôl i Ruban Gwyn De Affrica – sef rhoi terfyn ar Drais a Cham-drin yn erbyn Menywod a Merched.
Mae Grŵp Ymchwil Trais Prifysgol Caerdydd yn ymrwymedig i ddeall achosion o drais a chreu atebion yn y byd go iawn i atal y rhain. Mae’r Grŵp Ymchwil, sy’n rhan o Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch Prifysgol Caerdydd, wedi creu atebion ymarferol i drais yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.