Gwybodaeth newydd am effaith cyffuriau atal imiwnedd ar effeithiolrwydd brechlynnau COVID-19
15 Rhagfyr 2021
Gall cyffuriau sy’n helpu pobl â sglerosis ymledol (MS) i reoli’r cyflwr leihau effeithiolrwydd brechlynnau COVID-19, yn ôl astudiaeth newydd dan arweiniad Prifysgol Caerdydd.
Mae cyffur addasu clefyd (DMT) yn gyffur sy'n atal system imiwnedd y corff. Mae sawl DMT ar gael, sy’n cael ei gymryd gan bobl ag MS a chyflyrau eraill fel canser ac arthritis rhiwmatoid. Gan fod brechlynnau’n gweithio drwy ysgogi system imiwnedd y corff i ymateb iddynt, roedd amheuaeth y gallai ambell un DMT leihau eu heffeithiolrwydd.
Cyhoeddir yr astudiaeth newydd hon, a arweinir gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Queen Mary yn Llundain (QMUL), ac sy'n cynnwys casglu samplau mewn pum safle ledled y DU, yng nghyfnodolyn Annals of Neurology. Mae'n rhoi’r dystiolaeth fwyaf a adolygwyd gan gymheiriaid o effaith MS DMTs ar ymatebion imiwn i frechlynnau COVID-19.
Y gobaith yw y bydd y wybodaeth newydd hon yn paratoi clinigwyr yn well ar gyfer rhoi arweiniad ar drin MS a brechu rhag COVID-19.
Dywedodd Dr Emma Tallantyre, Uwch Ddarlithydd Clinigol mewn Niwroleg ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae cwestiynau ynghylch brechlynnau COVID-19 ymhlith y rhai mwyaf cyffredin rydym yn eu cael ar hyn o bryd gan bobl ag MS yn ein clinigau.
“Mae tynnu sylw at grwpiau nad ydynt wedi cynhyrchu digon o wrthgyrff i ymateb i’r brechlynnau wedi bod o gymorth yn barod wrth geisio penderfynu pwy ddylai gael dosys ychwanegol o frechlyn a phwy y gall fod angen iddo fod yn fwy gofalus dros y gaeaf er mwyn osgoi dal COVID-19.
“Rydym yn gobeithio y bydd gwaith pellach yn ein galluogi i deilwra triniaeth yn ôl yr unigolyn, er mwyn diogelu pobl ag MS rhag COVID-19 wrth gadw eu cyflwr dan reolaeth.”
Gwnaeth bron 500 o bobl ag MS gymryd rhan yn yr astudiaeth, ac aeth y tîm ymchwil ati i samplu sbotiau gwaed sych er mwyn ymchwilio i effaith cymryd DMT ar effeithiolrwydd brechlynnau COVID-19.
Gwelsant fod pobl ag MS a oedd yn cymryd un o ddau fath o DMT – fingolimod neu ocrelizumab – yn llai tebygol o gynhyrchu gwrthgyrff ar ôl cael brechlynnau AstraZeneca a Pfizer na’r rhai nad oeddent yn cymryd unrhyw DMT.
Mewn achosion lle cafodd gwrthgyrff eu cynhyrchu, roeddent ar lefel is nag a welwyd ymhlith y rhai a oedd yn cymryd math arall o DMT neu ddim un o gwbl. Fodd bynnag, gwelodd yr ymchwilwyr nad oedd ambell DMT arall, gan gynnwys y rhai sy’n hynod effeithiol ar gyfer trin MS, wedi cael unrhyw effaith niweidiol ar ymateb y system imiwnedd i frechlynnau COVID-19.
Cafodd Jo Welton, 38 ddiagnosis o MS ysbeidiol yn 2009 ac mae'n byw gyda blinder, gwendid a phoen bob dydd yn ei choes chwith. Mae hi wedi bod yn cymryd DMT Gilenya ers bron i wyth mlynedd ac ymunodd â'r astudiaeth ar ôl cael gwybod amdani gan ei thîm MS. Ers hynny, er ei bod wedi cael dau frechiad AstraZeneca, mae wedi cael gwybod bod ganddi lai o imiwnedd i COVID-19 ac mae’n aros i weld a yw ei brechiad atgyfnerthu wedi gweithio.
Dywedodd Jo, sy’n awdur meddygol o dde Cymru: “Rwyf o gefndir gwyddonol felly roedd gen i ddiddordeb yn yr astudiaeth cyn gynted ag y clywais i amdani. Roedd hefyd yn bwysig imi wybod faint o imiwnedd oedd gen i gan fod hyn yn effeithio ar fy mywyd o ddydd i ddydd. Rydw i wedi dilyn y canllawiau ynghylch DMTs ac MS o'r cychwyn cyntaf, gan olygu fy mod i wedi bod yn gwarchod fy hun ers dros 20 mis. Mae hi wedi bod mor anodd gweld pawb yn mynd yn ôl i ryw fath o normalrwydd a theimlo fy mod i ddim yn gallu gwneud hynny. Rwy'n teimlo'n agored i niwed ac, er nad yw'n fwriadol, rwy'n cael fy ngadael ar ôl.
“Mae rhai pobl yn fodlon byw eu bywydau heb wybod, ond nid yw’n risg rydw i eisiau ei chymryd. Mae gwybod nad oes gen i imiwnedd yn golygu mod i’n gallu barhau i weithio o bell, cadw pellter cymdeithasol, a gofyn i ffrindiau a theulu gael eu brechlyn atgyfnerthu a gwneud profion llif unffordd pan fyddwn yn cwrdd.”
Mae celloedd y system imiwnedd, fel celloedd-T, hefyd yn rhan bwysig o ymateb y system imiwnedd i frechlynnau neu feirysau. Edrychodd yr ymchwilwyr ar ymateb celloedd-T mewn grŵp bach o bobl a gymerodd ran yn yr astudiaeth ac y gwnaethant fethu â chynhyrchu digon o wrthgyrff i ymateb i frechlynnau COVID-19. Ar y cyfan, gwelsant fod system imiwnedd 40% o’r grŵp yn gallu ymateb yn gryf â chelloedd-T, er yr ymateb gwael â gwrthgyrff.
Dywedodd Dr Ruth Dobson, Uwch Ddarlithydd Clinigol mewn Niwroleg yn QMUL: “Mae treialon pellach yn hanfodol i’n helpu i ddeall y ffordd orau o sicrhau cydbwysedd rhwng y risgiau o atal neu ohirio trin MS a’r angen i frechu pobl ag MS yn erbyn COVID-19 yn effeithiol.”